Cod QR

(Ailgyfeiriad o Codau QR)

Math o god bar (neu god dau ddimensiwn) penodol sy'n ddarllenadwy gan ddarllenydd cod bar QR a ffonau camera yw cod QR (gair a dalfyrrwyd o Quick Response code ("Cod Ymateb Cyflym"). Mae'r cod yn dangos modiwlau du sydd wedi eu trefnu i wneud sgwâr ar gefndir gwyn. Drwy ddefnyddio cod QR, mae modd amgodio testun, URL, neu ddata eraill.

Cod QR
Enghraifft o'r canlynolnod masnach Edit this on Wikidata
Mathcod bar 2D Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluHydref 1997 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.qrcode.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cod QR i'r Wicipedia Cymraeg drwy ei safle ddiogel hi.

Maent yn gyffredin yn Siapan, lle y crëwyd nhw gan is-gwmni Denso-Wave i Toyota ym 1994. Un o'r mathau o godau bar dau ddimensiwn mwyaf poblogaidd yw'r cod QR. Crëwyd y codau QR yn wreiddiol er mwyn tracio ceir y cwmni a chaniatáu dadgodio cyflym.

Defnyddir y dechnoleg hon yn aml yn Siapan a De Corea, ond mae'r Gorllewin wedi bod yn eithaf araf yn ei mabwysiadu.

Y dyfodol golygu

Bellach ceir nifer o apps sy'n galluogi'r ffonau clyfar i adnabod gwrthrychau e.e. mae Aurasma yn caniatáu i ffôn y defnyddiwr "adnabod" dillad ar fodel mewn ffenest siop Dunhill yn Efrog Newydd ac mae'r model yn siarad (ar y ffôn) gan ddisgrifio'r dillad mae'n ei wisgo. Rhannwyd 2 filiwn o apps Aurasma, a hynny heb gost. Mae Blippar yn gwneud gwaith tebyg i nwyddau cyrff megis Cadbury, Jack Daniels, a Tesco.[1]

Cyhoeddodd Pepsi'n ddiweddar fod y cwmni Pongr o Boston yn galluogi i ddefnyddiwr hepgor y codau QR gan sganio'r gwrthrych fel llun ar hysbyseb yn uniongyrchol i'w ffôn. Mae hyn gam yn y datblygiad pan y bydd "meddalwedd adnabod" yn caniatáu i chi bwyntio'ch ffôn at adeilad ac o fewn eiliadau bydd tudalen neu erthygl Wicipedia yn agor gan ddisgrifio'r adeilad. Yn y cyswllt hwn, gellir edrych ar y codau QR fel rhywbeth dros dro.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu