System a leolir ar y we sy'n defnyddio cod QR i ddosbarthu erthyglau Wicipedia i ddefnyddwyr yn eu dewis iaith yw QRpedia. Gall y codau QR gael eu creu'n hawdd i gysylltu'n uniongyrchol ag unrhyw Dynodwr Adnoddau Unffurf (Uniform Resource Identifier, URI), ond mae'r system QRpedia yn cynnig ymarferoldeb ychwanegol.

Côd QR Tudalen Hafan y Wicipedia Cymraeg.
Gwefan QRpedia, sy'n arddangos côd QR, sy'n arddangos fel y URL http://en.qrwp.org/QRpedia

Crëwyd QRpedia gan Roger Bamkin, cadeirydd Wikimedia UK, a chafodd ei harddangos am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2011. Fe'i defnyddir ar hyn o bryd gan nifer o sefydliadau gan gynnwys amgueddfeydd yng ngwledydd Prydain, yr UDA, a Sbaen. Yng Nghymru, y prosiect cyntaf i ddefnyddio'r codau hyn ydy Pedia Trefynwy ac mae'r erthyglau Cymraeg ar lefydd, gwrthrychau, a phobl Trefynwy yn y broses o gael eu creu (Ionawr 2012).

Trosgwyddwyd perchnogaeth QRpedia i Wicimedia DU yn 2013. Mae'r holl ystadegau o ddefnyddwyr y côd, drwy'r byd, yn cael eu coladu ar wefan a gynhelir gan WM DU Archifwyd 2020-09-24 yn y Peiriant Wayback ers 2012.

Y Broses

golygu
 
Ymwelwyr i amgueddfa Derby yn defnyddio Ffôn symudol i sganio côd QR QRpedia

Pan fo defnyddiwr yn sganio côd QR QRpedia ar eu dyfais symudol (ffôn clyfar fel arfer), mae'r ddyfais yn dehongli y côd QR fel Lleolydd Adnoddau Unffurf (URL) gan ddefnyddio'r enw parth (Saesneg: domain name) "qrwp.org" gyd'r llwybr (darn olaf), sef teitl yr erthygl Wicipedia. Mae hefyd yn danfon cais am yr erthygl a nodwyd gan yr URL at QRpedia Web server, yn ogystal â danfon gosodiad ieithyddol y ddyfais.[1]

Mae server QRpedia wedyn yn defnyddio API Wicipedia i ddarganfod os oes fersiwn o’r erthygl wicipedia benodol yn yr iaith mae’r ddyfais yn ei ddefnyddio, a’u harddangos mewn fformat symudol priodol. Os nad oes fersiwn o’r erthygl ar gael yn y iaith a ddewiswyd, mae server QRpedia yn cynnig dewis o’r ieithioedd sydd ar gael neu gyfieithiad gan Google translate.

Yn y modd hwn gall un côd QR gyflenwi’r un erthygl mewn nifer o ieithoedd gwahanol, hyd yn oed pan nad yw’r amgueddfa'n medru cynnig eu cyfieithiadau ei hunain. Yn ogystal mae QRpedia yn cofnodi ystadegau defnyddwyr.[2]

Mae côd y prosiect ar gael i'w ailddefnyddio dan drwydded MIT License.

Tarddiad

golygu
 
Côd QRpedia ar gyfer yr erthygl "A Philosopher Lecturing on the Orrery" yn amgueddfa Derby. Mae’r erthygl, ers Awst 2011 ar gael mewn 17 iaith gan gynnyws Sipani, Esperanto, Swedeg, Portiwgieg, Tsiec, Eidalaidd, Rwsieg a Chatalaneg.

Dyfeisywd QRpedia gan Roger Bamkin a Terence Eden, ymgynghorydd we symudol, a gafodd ei ddatgelu ar y 9fed o Ebrill 2011[3] mewn digwyddiad Backstage Pass Derby Museum and Art Gallery's, sef rhan o gydweithrediad GLAM/Derby rhwng yr amgueddfa a Wicipedia, yn ystod y cyfnod hwn creuwyd dros 1,200 erthygl Wicipedia, mewn nifer o ieithoedd.

Mae côd y prosiect ar gael i'w ailddefnyddio dan drwydded MIT License.

Gweithrediadau

golygu
 
Label yn amgueddfa plant Indianapolis sy’n defnyddio côd QRpedia i gyfeirio ymwelwyr i’r erthygl Wicipedia "Broad Ripple Park Carousel"

Er ei greu yng ngwledydd Prydain gall QRpedia gael ei ddefnyddio mewn unrhyw leoliad lle mae ffôn y defnyddiwr yn derbyn signal data ag, ers Medi 2011 mae’n cael ei ddefnyddio yn:

Dydy QRpedia ddim yn cael ei gyfyngu i amgueddfeydd a galariau. Er enghraifft, mae’r Occupy movement yn ei ddefnyddio are eu posteri ymgyrchu.[6]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Going Multilingual with QRpedia gan Byrd Phillips; dyddiad: 15-06-2011; cyhoeddwr: Marcus Institute for Digital Education in the Arts; adalwyd: 5-8-2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-26. Cyrchwyd 2011-12-27.
  2. "QRpedia Statistics (example); adalwyd: 12-12-2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-13. Cyrchwyd 2011-12-27.
  3. Wikipedia:GLAM/Derby/QR code experiment; adalwyd: 25-08-2011
  4. "QR codes + Wikipedia = QRpedia; cyhoeddwr: The Children's Museum of Indianapolis; adalwyd: 25-08-2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-26. Cyrchwyd 2011-12-27.
  5. "QRpedia Codes at Fundació Joan Miró; adalwyd: 25-08-2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-26. Cyrchwyd 2011-12-27.
  6. We Don't Make Demands: Posters; adalwyd: 2-12-2011

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: