Codex Ambrosianus
Enw a roddir ar gyfres o bump llawysgrif a ysgrifennwyd yn y 6ed a'r 7g gan amryw o lawiau ac mewn sawl gwyddor yw'r Codex Ambrosianus. Mae'r llawygrifau hyn yn cynnwys detholiad o adnodau a phennodau o'r Hen Destament Apocryffaidd (Llyfr Nehemiah) a'r Testament Newydd (yn cynnwys rhannau o'r Efengylau a'r Epistolau), ynghyd â rhai sylwebau diweddarach a adwaenir fel y Skeireinau.
Enghraifft o'r canlynol | group of manuscripts |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Testunau
golyguMae'r Codex Ambrosianus yn cynnwys pum llawysgrif a adwaenir fel Codex Ambrosianus A, Codex Ambrosianus B, Codex Ambrosianus C, Codex Ambrosianus D a Codex Ambrosianus E. Cedwir Codex Ambrosianus A, B ac C yn y Biblioteca Ambrosiana ym Milan, yr Eidal.
Mae Codex Ambrosianus A yn cynnwys rhannau o Lythyrau'r Apostolion a'r Calendar Gothig. Ceir ynddo 204 tudalen, 190 yn ddarllenadwy, 2 yn anarllenadwy a 12 yn wag.
Yn Codex Ambrosianus B ceir rhannau o'r Epistolau ar 156 tudalen, 2 ohonynt yn wag. Ysgrifennwyd y Codex Ambrosianus B.21 yn ysgrifen Syriac.[1] Mae'n cynnwys llyfrau'r Apocrypha, Llyfrau 4 Ezra, Ail Lyfr Baruch, Trydydd a Pedwerydd Lyfr y Macabeaid, a rhan o lyfr Josephus am y Macabeaid.
Dim ond dwy ddalen a geir yn Codex Ambrosianus C sy'n cynnwys darnau o'r Efengyl yn ôl Mathew.