Un o lyfrau'r Testament Newydd yn y Beibl ar ffurf llythyr sy'n dysgu gwers foesol yw epistol (o'r Groeg: ἐπιστολή, "llythyr"). Llythyrau Paul yw'r mwyafrif o'r epistolau hyn. Mae awdur y Llythyr at yr Hebreaid yn anhysbys. Gelwir y gweddill, gan apostolion eraill, yn Epistolau Cyffredinol.

Mae hefyd sawl epistol yn Apocryffa'r Testament Newydd. Roedd rhai ohonynt yn uchel iawn eu parch gan yr Eglwys Fore ond nid ydynt bellach yn cael eu hystyried yn ganonaidd. Maent yn cynnwys:

  • Llythyr Barnabas
  • Llythyrau Clement
  • Llythyr y Corinthiaid at Bawl
  • Llythyr Ignatius at y Smyrnaeaid
  • Llythyr Ignatius at y Traliaid
  • Llythyr Polycarp at y Philipiaid
  • Llythyr Diognetus
  • Llythyr Pawl at y Laodiceaid
  • Llythyr Pawl at Seneca'r Ieuaf
  • Trydydd Llythyr Pawl at y Corinthiaid