Codi / \ Cysgu (albwm)
albwm gan Yws Gwynedd
Albwm cyntaf y canwr Cymraeg Yws Gwynedd yw Codi /\ Cysgu. Rhyddhawyd yr albwm ym Mehefin 2014 ar y label Recordiau Cosh.
Codi / \ Cysgu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Albwm stiwdio gan Yws Gwynedd | |||||
Rhyddhawyd | Mehefin 2014 | ||||
Label | Recordiau Côsh | ||||
Cronoleg Yws Gwynedd | |||||
|
Chwe mlynedd ers i Ywain Gwynedd ryddhau yr albwm Creaduriaid Nosol gyda'i grŵp Frizbee, ymddangosodd gyda Sesiwn C2 ac yna'i albwm unigol cyntaf ym mis Mehefin.
Dewiswyd Codi /\ Cysgu yn albwm gorau Gwobrau'r Selar 2014 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Cipiodd 'Neb ar Ôl' wobr Y Selar am y Gân Orau 2014[2].
Canmoliaeth
golyguMae un o gyfansoddwyr pop-roc Cymraeg gorau'r ddegawd ddiwethaf yn ei ôl a 'dw i wrth fy modd. Yn union fel ei gynulleidfa, mae Yws Frizbee wedi tyfu fyny
—Lois Gwenllian, Y Selar
Traciau
golygu- Sodla- 2:12
- Codi / \ Cysgu - 3:21
- Mae 'na Le - 3:02
- Gola Ola'r Dydd - 3:10
- O Gwennan = 3:31
- Drwgfyw -3:23
- Dal Fi'n Ôl - 3:35
- Neb ar Ôl - 3:35
- Sebona Fi - 3:33
- Cân Creulon - 3:17
(Holl ganeuon gan Yws Gwynedd)[3]