Yws Gwynedd

band roc Cymraeg

Band roc Cymraeg yw Yws Gwynedd. Prif leisydd y band yw Ywain Gwynedd. Aelodau eraill y band yw Ifan Davies, Emyr Prys Davies a Rich Roberts. Enillodd Ywain Gwynedd y wobr am Artist unigol am y drydedd flwyddyn yn olynol (2015-17) yng ngwobrau’r Selar.[1]

Yws Gwynedd
Arddullroc indie Edit this on Wikidata
Yws Gwynedd

Enillodd y band clod efo eu halbwm cyntaf Codi / \ Cysgu yn 2014.[2]

Poblogrwydd Sebona Fi golygu

Heb os cân fwyaf adnabyddus Yws Gwynedd yw Sebona Fi, cân a ddaeth i'w chysylltu â rhediad syfrdannol o llwyddiannus Cymru yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth UEFA Euro 2016. Ar 23 Gorffennaf 2023 croesodd y gân dros filiwn o ffrydiau lawr-lwytho ar lwyfan gerddoriaeth Spotify, yr 8fed gân Gymraeg i groesi'r trothwy eiconig. Nododd Yws Gwynedd fod y gân yn cael tua 800 ffrwd lawrlwytho y dydd.[3][4]

Disgyddiaeth golygu

Senglau golygu

Teitl Ochr 2 Blwyddyn Albwm Mwy
Fy Nghariad Gwyn n/a 2014 n/a Sengl Nadolig
Dy Anadl di Pan Ddaw Yfory 2015 n/a
Hogia Ni All the Way 2016 n/a gyda Gwerinos
Sgrîn n/a 2016 Anrheoli
Anrheoli n/a 2016 Anrheoli
Deryn Du n/a 2020 n/a
Ni Fydd y Wal n/a 2021 n/a
Dau Fyd n/a 2022 n/a

Albymau golygu

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Blwyddyn
Codi / \ Cysgu Albwm Recordiau Côsh Records 2014
Anrheoli Albwm Recordiau Côsh Records 2017

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Tafwyl". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-04. Cyrchwyd 2017-03-25.
  2. Wales Online - Yws Gwynedd, Candelas and Sŵnami triumphant at Welsh music awards 2015
  3. "Sebona Fi: Cân Yws Gwynedd yn cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau". Newyddion S4C. 24 Gorffennaf 2023.
  4. "Hon di cael ei ffrydio 1m o weithia ar Spotify. 8fed cân Gymraeg i neud". Twitter bersonol Yws Gwynedd. 23 Gorffennaf 2023.