Coedwig yn ne-orllewin Ynys Môn i'r de-orllewin o Niwbwrch yw Coedwig Niwbwrch (Saesneg: Newborough Forest). Mae yn eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Llwybr trwy Goedwig Niwbwrch.

Plannwyd coed conifferaidd yn 1946-47 ar dwyni tywod rhan sylweddol o ardal Cwningar Niwbwrch. Saif Gwarchodfa Genedlaethol Cwningar Niwbwrch gerllaw, ac o'r 1970au ymlaen, mynegwyd pryder fod y coed yn tueddu i sychu'r tir yn ardal y warchodfa, lle ceir nifer o blanhigion prin. Yn 2004, cyhoeddodd y Comisiwn Coedwigaeth gynlluniau ar gyfer y goedwig, oedd yn cynnwys torri'r coed ar draws rhan sylweddol o'r goedwig. Bu cryn wrthwynebiad i'r cynllun, ac mae'r broses o ymgynghori yn parhau.

Mae'r goedwig yn bwysig fel un o'r ddwy goedwig ar Ynys Môn lle ceir poblogaeth dda o'r Wiwer goch.