Niwbwrch

pentref ar Ynys Môn

Tref yn ne Ynys Môn ydy Niwbwrch (Newborough yn Saesneg). Saif ar lôn yr A4080 rhwng Porthaethwy ac Aberffraw yng nghymuned Rhosyr - sef yr hen enw Cymraeg.

Niwbwrch
"Sgwar" Niwbwrch - Newborough "Square" - geograph.org.uk - 838477.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaBiwmares Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,169 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1648°N 4.359°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH425655 Edit this on Wikidata
Cod postLL61 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)

Yr eglwysGolygu

Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i Bedr a Phaul, yn hen. Adeilad â chorff hir a chul ydyw, a godwyd yn y 14g ar safle hŷn. Mae'r bedyddfaen hefyd yn dyddio o'r 12g ac o waith Cymreig lleol. Ychwanegwyd porth i'r eglwys yn y 15g. Ceir dau feddfaen hynafol yno, un ohonyn nhw gyda cherfwaith blodeuog a'r llall gyda'r arysgrif Hic jacet Dns Mathevs ap Ely arno ('Yma mae'r Arglwydd Mathew ap Eli yn gorffwys').

HanesGolygu

 
Gwraig o Niwbwrch tua 1875; sylwer ar y patsyn clwt ar ei phen-elin.

Creuwyd y fwrdeistref newydd (ystyr llythrennol 'Niwbwrch') ar ddiwedd y 13g ar gyfer y Cymry a orfodwyd i ymadael â Llan-faes gan y Saeson. Cyn hynny roedd treflan fach yno ger Llys Rhosyr, un o brif lysoedd Tywysogion Gwynedd yn Oes y Tywysogion. Rhosyr oedd enw'r cantref hefyd.

Ar ganol y 14g ymwelodd Dafydd ap Gwilym â Niwbwrch a chanodd gywydd i foli'r dref a'i drigolion. Dyma'r llinellau agoriadol:

Hawddamawr, mireinmawr maith,
Tref Niwbwrch, trefn iawn gobaith,
A'i glwysdeg deml a'i glasdyr,
A'i gwin a'i gwerin a'i gwŷr,
A'i chwrw a'i medd a'i chariad,
A'i dynion rhwydd a'i da'n rhad.[1]

Arglwydd NewboroughGolygu

Dylid nodi nad oes gan y teitl hwn ddim byd i'w wneud yn uniongyrchol â Niwbwrch. Fe enwyd aelodau o deulu Glynllifon, Sir Gaernarfon yn arglwyddi Newborough wedi i Syr Thomas Wynn gael ei ddyrchafu i farwnyddiaeth Iwerddon yn y 18g. Fe ddewisodd y teitl "Arglwydd Newborough" sef arglwydd tref Newborough yn Contae Loch Garmon (swydd Llwch Garmon); erbyn heddiw, newidwyd enw Newborough i Guaire neu 'Gorey'. Mae'n debyg mai oherwydd i Thomas Wynn fod yn berchen ar ychydig o leiniau o dir ym mhlwyf Niwbwrch y dewisodd yr enw, trwy weld hwylustod y cyd-ddigwyddiad o ran enw'r ddau le. Cwbl anghywir felly yw cyfeirio at "Arglwydd Niwbwrch".

NaturGolygu

Mae Niwbwrch yn cynnwys llawer o flodau fel clychau'r gog, blodyn ymenyn a pabi coch.

AtyniadauGolygu

PoblGolygu

  • Thomas Jones, tyddynwr Cwningar, a dyddiadurwr. Mae Dyddiaduron teulu Thomas Jones, Cwningar, Niwbwrch yn rhoi blas (weithiau’n rhwystredig o anghyflawn) o fywyd ei gyfnod yn y gongl fach hon o Fôn. Mae’r detholiad helaeth o gofnodion am fywyd pob dydd ef a’i fab i’w gweld yn fan hyn [1] yn Nhywyddiadur gwefan Prosiect Llên Natur.

OrielGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym, cerdd 134.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato