Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
Math o goedwig hynafol naturiol yw Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru.
Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru
golyguLleoliadau
golyguMae'r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru yn gweithio ar bedair ardal yng ngorllewin Cymru, sef; Eryri, Cwm Einion, Cwm Doethïe & Mynydd Mallaen, Cwm Elan. Mae'r prosiect yn ceisio gwaredu rhywogaethau ymledol o'r pediar ardal a newid sut maent yn cael eu pori.[1]
Yn 2015, bu ymddiriedolaeth Coed Cadw a’r naturiaethwr Iolo Williams yn cynllunio i brynu coedwig law Geltaidd o'r enw Llennyrch yn Llandecwyn er mwyn diogelu'r goedwig 450 erw. Roedd angen £750,000 ar yr ymddiriedolaeth i wneud hyn.[2]
Plannwyd coed i ehangu coedwig law celtaidd Hafod Garegog, ger Porthmadog yn defnyddio rhi o'r feithrinfa goed.[3]
Meithrinfa goed
golyguYm mis Mai 2023, cyhoeddwyd fod Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi sefydlu meithrinfa goed yn Eryri, i dyfu rhywogaethau o goed brodorol dan fygythiad, gwarchod coediwgoedd glaw celtaidd ac i ddatrus yr argyfwng hinsawdd.[4] Bydd coed derw, coed bedw acoestrwydd yn cael eu tyfu, yn ogystal a'r Boplysen Ddu, y goeden sydd o dan y mwyaf o fygythiad ym Mhrydain. Bydd y coed yn cael eu tyfu mewn celloedd am bedair blynedd cyn cael eu plannu tu allan Mae nod i dyfu 30,000 o goed y flwyddyn.[3]
Ffactorau problematig
golyguMae'r Goedwig Law Geltaidd wedi dirywio dros y canrifoedd diwethaf oherwydd gor-bori gan ddefaid a cheirw, plannu conwydd, ymlediad rhywogaethau.[1] Dywed David Smith, Prif Geidwad i'r Ymddiriedolaeth yn Eryri am y coedwigoedd law, "Mae'r coed 'ma 'di bod o gwmpas ers i'r rhew dynnu nôl yn Oes yr Iâ diwethaf felly 'da ni'n sôn am 10,000 o flynyddoedd."
"Yn yr amser yna mae'r hinsawdd wedi mynd yn gynhesach ac yn oerach ac mae'r coed wedi gallu addasu i hynna yn iawn. Beth sy' wedi neud iddi nhw ddiflannu cymaint yw beth ni wedi bod yn gwneud - torri nhw lawr am wahanol resymau a gorbori'r tir."[3]
Rhywogaethau ymledol:
- Crib-y-ceiliog (Crocosmia x crocosmiliflora)
- Rhododendron ponticum
- Pidyn-y-gog (Lysichiton americanus)[5]
Rhywogaethau'r goedwig law celtaidd
golyguMae'r rhywogaethau canlynol o dan bwysau:
- Cennau: Pyrenula hibernica (mwyar duon a chwstard) a llysiau'r afu
- Adar: gwybedog brith, tingoch a thelor y coed
- Mamaliaid: ystlum pedol lleiaf a llygod y coed[1]
Mae'r coed canlynol yn naturiol i'r goedwig law celtaidd
- Coed: coed derw, coed bedw, oestrwydd, Poplysen Ddu (prin)[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Lleoliadau Coedwig". Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-09-06. Cyrchwyd 2023-09-06.
- ↑ "Apêl i brynu 'coedwig law Geltaidd'". Golwg360. 2015-08-04. Cyrchwyd 2023-09-06.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 "Y fforest law Geltaidd yn ehangu yn Eryri". BBC Cymru Fyw. 2023-08-18. Cyrchwyd 2023-09-06.
- ↑ "Tyfu coedwigoedd glaw Celtaidd y dyfodol". National Trust. Cyrchwyd 2023-09-06.
- ↑ "Rhywogaethau Ymledol Estron". Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-06.