Iolo Williams
Naturiaethwr a chyflwynydd teledu o Gymru ydy Iolo Tudur Williams (ganwyd 22 Awst 1962, Llanfair ym Muallt). Mae'n adnabyddus am gyflwyno rhaglenni natur ar sianeli BBC ac S4C. Dechreuodd gyflwyno rhaglenni ar BBC Cymru yn 1997. Roedd cyfres Birdman 2001 ar BBC Two yn dilyn ei waith fel swyddog RSPB
Iolo Williams | |
---|---|
Ganwyd | 22 Awst 1962 Llanfair-ym-Muallt |
Man preswyl | Powys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd, adaregydd, cyflwynydd teledu, swolegydd, llenor |
Cyflogwr | |
Gwefan | http://www.iolowilliams.co.uk/ |
Treuliodd dri mis cyntaf ei fywyd ym mhentref Beulah cyn i'w dad gael swydd fel prifathro yn Ysgol Gynradd Eglwys Wen Sir Benfro. Dychwelodd y teulu i Bowys pan oedd Iolo'n bump oed a magwyd ef yn Llanwddyn. Mynychodd Ysgol Gynradd Efyrnwy Llanwddyn cyn mynd i Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Yno astudiodd Ffrangeg a Bioleg ar gyfer lefel A cyn astudio Ecoleg yn Llundain. Wedyn bu'n gweithio ar fferm am wyth mis ac yn y diwydiant coed am gyfnod. Cafodd swydd fel swyddog RSPB yn 1985 a treuliodd yr 14 mlynedd ganlynol yn gweithio dros yr elusen.
Yng Ngorffennaf 2003, cerddodd 270 milltir o ogledd Cymru i'r de mewn 11 diwrnod er mwyd codi arian i'r elusennau plant, Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith.
Roedd Iolo Williams yn wyneb ar gyfer ymgyrch hybu darllen, Diwrnod y Llyfr yn 2004.[1]
Erbyn hyn mae Iolo Williams yn byw ym mhentref Llandysul, ger y Drenewydd.[2]
Teledu
golygu- Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch (BBC)
- Nature’s Top 40 (BBC)
- Britain’s Big Wildlife Revival (BBC)
- Countryfile (BBC)
- Iolo’s Great Welsh Parks (BBC)
- Rugged Wales (BBC)
- Canals of Wales (BBC)
- Secret Life of Birds (BBC)
- Wild Wales (BBC)
- Wild Winter (BBC)
- Iolo's Special Reserves (BBC)
- Iolo's Natural History of Wales (BBC)
- Iolo's Welsh Safari, 2005 (BBC)
- Natur Gudd Cymru (S4C)
- Cwm Sal, Cwm Iach, 2009 (S4C)
- Cwm Glo, Cwm Gwyrdd (S4C)
- Bro, 2009–12 (S4C)
- Iolo yn Rwsia (S4C)
- Gwyllt (S4C)
- Natur Anghyfreithlon (S4C)
- Crwydro (S4C)
- Iolo ac Indiaid America (S4C)
- Hydref Gwyllt Iolo, 2020 (S4C)
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau Iolo Williams
golygu- Blwyddyn Iolo (Gwasg Gwynedd, 2003)
- Crwydro (Hughes a'i Fab, 2004)
- Wild about the Wild (Gwasg Gomer, 2005)
- Blwyddyn Fan Hyn a Fan Draw (Gwasg Gomer, 2011)
- Cynefin yr Ardd, gyda Bethan Wyn Jones (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)
- Wild Places: Wales' Top 40 Nature Sites (Seren, 2017)
Awduron Eraill
golygu- Paul Sterry, Llyfr Natur Iolo, cyfieithwyd o'r Saesneg gan Iolo Williams a Bethan Wyn Jones (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Peter Hayman a Rob Hume, Llyfr Adar Iolo Williams, cyfieithwyd gan Iolo Williams (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
Cyfeiriadau
golyguDolenni Allanol
golygu- (Saesneg) Proffil ar wefan BBC Archifwyd 2009-01-22 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Proffil ar wefan "BBC Wales Nature" Archifwyd 2008-03-29 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Proffil ar wefan Gwasg Gomer Archifwyd 2008-10-09 yn y Peiriant Wayback