Cof y Cwmwd
Mae Cof y Cwmwd yn gronfa o ffeithiau ac erthyglau yn y Gymraeg am bynciau yn gysylltiedig â hanes cwmwd Uwchgwyrfai, ar ffurf wici. Fe'i hariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn 2017 a'r nod yw datblygu'r arfer - a'r sgiliau - o drafod hanes lleol trwy gyfrwng y Gymraeg, wrth greu adnodd pwysig ar gyfer haneswyr y cylch. Mae ar gael i bawb ar y we ar safle Canolfan Hanes Uwchgwyrfai sydd yn gyfrifol am gynnal Cof y Cwmwd.
Mae Uwchgwyrfai yn cynnwys y wlad rhwng Afon Gwyrfai a'r Eifl, a Dyffryn Nantlle.
Mae Cof y Cwmwd yn wici annibynnol yn rhedeg ar yr un feddalwedd â Wicipedia ei hun, ac yn agored i unrhyw un gyfrannu ato.
Mae'r nifer o erthyglau'n dal i gynyddu, ac ar hyn o bryd ceir erthyglau am dros 1600 o bynciau a lleoedd sy'n berthnasol i'r ardal o fewn ffiniau'r cwmwd. Ceir mynediad atynt trwy chwilio amdanynt yn y blwch chwilio ar ôl clicio ar y ddolen isod.