Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn elusen a sefydlwyd yn 2006 ym mhentref Clynnog yn Uwchgwyrfai i hyrwyddo hanes y cwmwd a hanes Cymru, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ganolfan yn berchen ar dŷ capel a hen ysgoldy y Methodistiaid Calfinaidd yn y pentref. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl. Yn ddiweddar, sefydlwyd wici ar gyfer crynhoi hanes cwmwd Uwchgwyrfai, sef Cof y Cwmwd[1].

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai
Enghraifft o'r canlynolcanolfan treftadaeth, amgueddfa Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2006 Edit this on Wikidata
LleoliadSchoolroom and Schoolhouse Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthGwynedd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://uwchgwyrfai.cymru/ Edit this on Wikidata