Cofeb Genedlaethol y Tywodydd Gwynion, Mecsico Newydd

Mae Cofeb Genedlaethol y Tywodydd Gwynion yn barc genedlaethol yn Mecsico Newydd, yr Unol Daleithiau, sydd yn cynnwys 115 o’r 275 milltir sgwâr o dwyni tywod gypsum. Mae gweddill yr ardal ar dir milwrol lle profir taflegrau’r awyrlu, a sy ddim agor i’r cyhoedd.[1][2]

Mae pobl wedi dod i'r ardal ers dros 10,000 o flynyddoedd. Daeth y Sbaenwyr i chwilio am gypswm a halen. Cymerwyd yr ardal drosodd gan lluoedd arfog yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd i brofi teflynau.[3]

Mae’r parc ar ben gogleddol yr Anialwch Chihuahua ym Masn Tularosa a saif rhwng 3890 a 4116 o droedfeddi uwchben y môr.

Ceir canolfan ymwelwyr ar Brif ffordd 70, rhwng Alamagordo a Las Craces.[1] Daeth yr ardal yn gofeb genedlaethol ar 18 Ionawr 1933.[4]

Creaduriaid nosol yw'r mwyafrif o'r creaduriaid cynhenid sydd yno, er bod rhai eraill wedi esblygu i fod yn wyn ac felly'n medru goroesi yn haul y dydd.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Gwefan newmexico.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-13. Cyrchwyd 2017-10-11.
  2. Gwefan atlasobscura
  3. Tudalen hanes ar wefan y parc genedlaethol
  4. 4.0 4.1 Gwefan wikitravel.org

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am New Mexico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.