Halen
cyfansoddyn cemegol
Cyfansoddyn cemegol gwyn yw halen a'r enw cemegol arno yw sodiwm clorid (fformiwla NaCl
). Defnyddir halen i roi blas ar fwyd ac i gadw (neu brisyrfio) cigoedd. Mae ychydig ohono'n hanfodol i gynnal dyn ac anifeiliaid byw, ond mae gormod yn wael i'r iechyd, neu hyd oed angheuol.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | ingredient, cymysgedd ![]() |
---|---|
Math | cynhwysyn bwyd ![]() |
Yn cynnwys | sodiwm clorid, impurity, food additive, anticaking agent, potassium iodide ![]() |
![]() |

Amrywiol ddefnydd Golygu
Defnyddir ef i ddadlaith rhew ar y ffyrdd.
Dyma gofnod yn nyddiadur William Jones Moelfre, Aberdaron[1]:
- 28 Mai 1884: sych Gorphen torri tywyrch cwt 5 Hau halen yn Cae'r Afon
Mae’n son llawer am "nôl halen", fel arfer yn yr hydref - ond "hau halen"? Beth a olygai - a’r dyddiad ynghanol y tymor? A thybed a oes a wnelo tyddyn Cae Halen Bach ym mhlwyf Llandwrog rhywbeth â’r cwestiwn. Mae yna lawer o enghreifftiau o enwau tebyg ar hyd a lled Cymru.
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Tywyddiadur Llên Natur[www.llennatur.cymru]