Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin
Mae Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin, gan Y Parch Thomas Edwards, Cwmafon yn gofiant a gyhoeddwyd gan fab y gwrthrych, Y Parch Samuel Elcanah Prytherch, ac a argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych ym 1894. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[1]
Wynebddalen y llyfr | |
Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Thomas Edwards, Cwmafon |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1894 |
Genre | cofiant |
Prif bwnc | William Prytherch |
Cefndir
golyguMae'r cyfrol yn adrodd hanes, William Prytherch (1804 - 1888) [2] gweinidog cynnar a phoblogaidd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.
Cynnwys
golyguMae'r cofiant yn sôn am hanes ei blentyndod trist yn colli ei dad ac yn cael ei fagu gan gefnder. Mae'n trafod ei addysg yng Nghaerfyrddin a'i dröedigaeth i'r achos Cristionogol. Mae penodau am ei dderbyn yn aelod o'r Methodistiaid Calfinaidd a'i esgyn o fod yn aelod, yn bregethwr ar brawf ac yn y pendraw yn weinidog gyda'i enwad.
Mae llawer o sôn am ei gyfeillgarwch arbennig a'r Parch John Jones, Llangyndeyrn, a'r triciau chwaraees bu rhyngddynt. Mae hanes, ei deulu, ei ddwy wraig a'i ddau fab a'i dilynodd i'r weinidogaeth.
Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys nifer o lythyrau a derbyniodd yr awdur, er cof amdano a cherddi coffa.[3]
Dolenni allanol
golygu- Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin, ar lein
- P. H. Griffiths, Y Parchedig W. E. Prytherch (dyn un peth) cofiant, 1937
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-11.
- ↑ William Prytherch - Y Bywgraffiadur Cymreig
- ↑ Edwards, T. E.; Prytherch, William (1894). Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin. Dinbych : T. Gee.