Llangyndeyrn

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llangyndeyrn (Seisnigiad: Llangendeirne ar rai mapiau). Saif ar y ffordd B4306 ar lan Afon Gwendraeth Fach, i'r de-ddwyrain o dref Caerfyrddin. Fe'i enwir ar ôl Cyndeyrn.

Llangyndeyrn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,102 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,719.92 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8033°N 4.2393°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000532 Edit this on Wikidata
Cod OSSN457140 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Heblaw pentref Llangyndeyrn ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Carwe, Pont-iets (rhan), Meinciau, Pum Heol, Crwbin, a Phontantwn. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,952, gyda 76.53% yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]

Eglwys Sant Cyndeyrn, Llangyndeyrn

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangyndeyrn (pob oed) (3,102)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangyndeyrn) (1,771)
  
58.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangyndeyrn) (2397)
  
77.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangyndeyrn) (541)
  
40.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%
 

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu