William Prytherch
Gweinidog o Gymru oedd William Prytherch (25 Ebrill 1804 - 20 Tachwedd 1888).[1]
William Prytherch | |
---|---|
Ganwyd | 25 Ebrill 1804 Cynwyl Gaeo |
Bu farw | 20 Tachwedd 1888 Glan-y-fferi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Plant | William Eliezer Prytherch |
Cefndir
golyguCafodd Prytherch ei eni yn Nhŷ'n yr Heol, Cynwyl Gaeo yn fab i Thomas William Prytherch, dilledydd. Dydy cofnod bedydd Prytherch na'i hunangofiant ddim yn crybwyll enw ei mam. Mae'r hunangofiant yn nodi ei bod yn ferch i William Jones oruchwyliwr gwaith plwm Llanfair Clydogau, a'i bod hi, cyn priodi, wedi bod yn gogyddes yn nhŷ John Johnes, Dolaucothi. Pan oedd Prytherch tua blwydd oed bu farw ei dad o'r diciâu, dychwelodd ei fam i'w gwaith fel cogyddes ystâd Dolaucothi a chafodd y baban ei roddi allan i'w fagu gan gefnder iddo, Evan Jones, ffarmwr yng Nghaeo. Talodd Johnes i'r bachgen cael addysg mewn ysgol yng Nghaerfyrddin hyd ei fod yn 14 mlwydd oed.[2]
Gyrfa
golyguYn bedwar ar ddeg oed prentisiwyd Prydderch i Daniel Rees, un o gyn gweithwyr ei ddiweddar dad, i ddysgu bod yn deiliwr.[3] Roedd Daniel Rees yn aelod o'r Methodistiaid Calfinaidd a dan ei ddylanwad ef dechreuodd Prytherch mynychu'r Ysgol Sul.
Pan oedd Pritchard tua 16 mlwydd oed cafodd ei fam prydles ar Felin Dolaucothi, gyda'r bwriad o greu cartref a swydd iddi hi a'i fab yno.[4] Doedd meistres yr ystâd ddim yn fodlon colli ei chogyddes, gan hynny aeth Prytherch yno i fyw a gweithio ar ben ei hun
Ychydig ar ôl symud i'r felin aeth Prytherch i ffair Awst Caeo ac aeth i feddwi'n dwll gyda nifer o laslanciau eraill yn nhafarn y pentref. Wedi ffieiddio efo'i hunan am y fath ymddygiad dechreuodd myfyrio am ei gyflwr ysbrydol ac i weddïo. O'r ddydd hwnnw penderfynodd cysegru weddill ei fywyd i achos Crist. Y Sul canlynol aeth i wasanaeth yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghaeo lle fu'r Parch Watcin Edward, Defynnog yn pregethu a mynychodd y seiat wedi'r oedfa. Wedi derbyn cyngor ysbrydol gan Watcin Edward gafodd tröedigaeth a derbyniwyd ef yn aelod cyflawn o'r seiat. Dechreuodd cynnal gwasanaethau crefyddol yn y felin.[5]
Tua 1825 gwnaeth Prytherch cais i gapel Caio i gael dechrau pregethu. Wedi ei holi gan y Parch David Charles, oedd yn ei adnabod ers ei ddyddiau ysgol yng Nghaerfyrddin cafodd caniatâd i fod yn bregethwr ar brawf. Ar ôl tri mis ar brawf derbyniwyd ef yn aelod o gyfarfod misol Sir Gaerfyrddin, a oedd yn cael ei gynnal ym Myddfai fel, pregethwr lawn. Ym mhen tri mis arall derbyniwyd ef a'i gyfaill mawr, John Jones, Llangyndeyrn, yn aelodau o Gymdeithasfa Sir Gaerfyrddin fel gweinidogion yr efengyl. Roedd bod yn aelod o'r Gymdeithasfa yn caniatáu iddynt deithio i bregethu y tu allan i'w sir frodorol. Pregethodd y tu allan i Sir Gaerfyrddin y Sul canlynol yng Nghwmgïedd, Sir Faesyfed. Aeth ar ei daith pregethu cyntaf trwy Sir Aberteifi yng Nghwmni'r Parch Thomas Harries, Blaenafon.
O 1832 ymlaen bu Prytherch yn ffermio yn ogystal â phregethu a bu'n cadw ffermydd mewn nifer o lefydd yng Nghaerfyrddin gan gynnwys Caeo, Cil-yCwm, Llanegwad, Llanfynydd, Cwm-ann a Nantgaredig.
Cafodd Prytherch ei ordeinio'n Weinidog ym 1834. Ni fu yn weinidog ar eglwys unigol erioed, ond fu'n mynd ar deithiau pregethu trwy bob parth o Gymru ac yn ymweld â'r capeli Cymraeg yn nhrefi Lloegr hefyd. Byddai'n aml yn gyd deithio gyda'i hen gyfaill John Jones, Llangyndeyrn.[6] Yn ôl rhai Prytherch oedd y pregethwr a deithiodd mwyaf erioed yn ei enwad.[7] Roedd yn bregethwr hynod boblogaidd ac yn sicr o gynulleidfaoedd mawr ym mhob man.
Teulu
golyguBu Prytherch yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Joyce Evans, merch Thomas Evans o’r Pumsaint Inn, Llanpumsaint, bu iddynt briodi ar 27 Ionawr 1832.[8] Cawsant bump o blant ond bu farw pedwar ohonynt yn oedolion ifanc. Daeth yr unig fab i oroesi, Y Parch William Eliezer Prytherch, yn weinidog amlwg gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Abertawe.[9] Bu farw Joyce o Golera ym 1854. Ei ail wraig oedd Mrs Ada Jones (née Thomas), gwraig weddw oedd yn berchen ar fferm fawr yn Nantgaredig. Roedd ganddi hi chwe phlentyn ifanc o'i phriodas gyntaf a bu iddi hi a William Prydderch dau fab. Bu'r ail fab Y Parch Samuel Elcanah Prytherch yn weinidog yng Nglan-y -fferi a'r Unol daleithiau.[10] Bu farw'r ail Mrs Prytherch ym 1884.[11]
Marwolaeth
golyguYm 1878 Symudodd Prytherch i fyw i Lan-y-fferi lle fu farw yn 84 mlwydd oed.[12] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Llanpumsaint.[13]
Cyhoeddwyd cofiant iddo gan y Parch T E Evans Cwmafon Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin (Gwasg Gee Dinbych, 1894); ac un arall gan P. H. Griffiths, Y Parchedig W. E. Prytherch (dyn un peth) cofiant, 1937.
-
William Prytherch tua 1880
-
Y Parch William Eliezer Prytherch, ei fab
-
Cofiant gan T E Edwards
Cyfeiriadau
golygu- ↑ William Prytherch - Y Bywgraffiadur Cymreig
- ↑ Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin, Edwards, T. E; Gwasg Gee, Dinbych 1894, Tudalen 12 adalwyd 8 Ebrill 2020
- ↑ "Y PARCH H T STEPHENS AR Y PARCH WILLIAM PRYTHERCH - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1893-12-21. Cyrchwyd 2020-04-08.
- ↑ "YMWELIAD A DOCTOR DAFYDD JONES - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1891-10-24. Cyrchwyd 2020-04-08.
- ↑ Cofiant y diweddar a'r parchedig William Prytherch, o Sir Gaerfyrddin, Edwards, T. E; Gwasg Gee, Dinbych 1894, Tudalen 18 adalwyd 8 Ebrill 2020
- ↑ Y PARCH. WILLIAM PRYTHERCH, FERRY SIDE. Gan y Parch. D: Geler Owen, Cydweli - Y CylchgrawnCyf. 1 rhif. 9 - Medi 1891 adalwyd 8 Ebrill 2020
- ↑ MARWOLAETHAU PREGETHWYR - Y Drysorfa Rhif. 699 - Ionawr 1889 adalwyd 8 Ebrill 2020
- ↑ Gwasanaethau Archifau Cymru Cofrestr gostegion a phriodasau eglwys Cynwyl Gaeo Tudalen 90, rhif 270
- ↑ "REV W E PRYTHERCH - South Wales Weekly Post". William Llewellyn Williams. 1919-05-03. Cyrchwyd 2020-04-08.
- ↑ "Y Parch S E Prytherch - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1916-04-12. Cyrchwyd 2020-04-08.
- ↑ "Marwolaethau - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1884-04-16. Cyrchwyd 2020-04-08.
- ↑ "UN ARALL O'R CEWRI WEDI SYRTHIO - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1888-11-29. Cyrchwyd 2020-04-08.
- ↑ "YR HYBARCH WILLIAM PRYTHERCH YN EI FEDD - Y Drych". Mather Jones. 1888-12-13. Cyrchwyd 2020-04-08.