Cofnodion Gwladol yr Alban
Adran anweinidogol Llywodraeth yr Alban ydy Cofnodion Gwladol yr Alban (Saesneg: National Records of Scotland). Mae'n gyfrifol am gofrestru sifil, y cyfrifiad yn yr Alban, ystadegau demograffig, hanes teuluol a'r archifau cenedlaethol a chofnodion hanesyddol.[1]
![]() | |
Enghraifft o: | adran anweinidogol o'r llywodraeth ![]() |
---|---|
Rhan o | Llywodraeth yr Alban ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2011 ![]() |
Lleoliad | Caeredin ![]() |
Rhagflaenydd | General Register Office for Scotland, National Archives of Scotland ![]() |
Aelod o'r canlynol | Digital Preservation Coalition, British and Irish Committee on Map Information and Cataloguing Systems ![]() |
Gweithwyr | 430 ![]() |
Isgwmni/au | Scottish Register of Tartans ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Dinas Caeredin ![]() |
Gwefan | https://www.nrscotland.gov.uk/ ![]() |

Crëwyd Cofnodion Gwladol yr Alban ym mis Ebrill 2011 trwy gyfuno Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban (Saesneg: General Register Office for Scotland) ac Archifau Gwladol yr Alban (Saesneg: National Archives of Scotland).
Pencadlys Cofnodion Gwladol yr Alban yw New Register House, Caeredin. Dyluniwyd yr adeilad gan Robert Adam, ac fe'i hagorwyd i'r cyhoedd ym 1788.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) National Records of Scotland: What We Do; adalwyd 15 Rhagfyr 2017.