Arolwg a wneir gan lywodraeth gwlad er mwyn darganfod ystadegau am y boblogaeth, er enghraifft ei nifer, cyflogaeth, lleoliad, arferion ac ati yw cyfrifiad.

Mae'n debyg fod y syniad o gael cyfrifiad yn mynd yn ôl i'r cyfnod pan godwyd dinasoedd am y tro cyntaf. Arferai brenhinoedd gwareiddiadau Mesopotamia a'r Hen Aifft gynnal cyfrifiad, er enghraifft, ac roedd yn arfer gan y Rhufeiniaid hefyd. Yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain, etholid dau censor bob pum mlynedd, gyda chynnal cyfrifiad yn un o'u dyletswyddau.

Cyfrifiad Cymru a Lloegr golygu

Cynhelid y cyfrifiad cyntaf erioed yn hanes Cymru ym 1801. Roedd 587,000 o bobl yn byw yng Nghymru ar y pryd, a Merthyr Tudful oedd y dref fwyaf gyda 7,705 o drigolion.

Defnyddir hen gyfrifiadau yn aml mewn ymchwil hanesyddol megis Hel Achau neu ymchwil hanes tŷ neu ardal benodol. Yn Lloegr a Chymru (roedd cyfrifiad yr Alban ac Iwerddon yn annibynnol), y cyfrifiad cyntaf a ellir ei chwilio er mwyn pwrpas ymchwil yw 1841, ond ni chofnodwyd enwau personol yn y cyfrifiadau cynnar a dinistriwyd y cyfrifiadau gwreiddiol, cyn 1841, wedi i'r ystadegau cael eu casglu.

Ym 1841 cofnodwyd yr enw a chyfenw, oedran (wedi ei grynhoi i'r pum mlynedd agosaf ar gyfer rhai dros 15 oed), galwedigaeth (Dynion yn unig) ac os aned y person yn y sir ai peidio, ac os aned hwy yn yr Alban, Iwerddon, neu mewn tiroedd estron. Cofnodwyd os oedd person yn Forwyn neu'n Was i'r teulu, ond nid y perthynas rhwng y teulu na rhwng ymwelwyr. Dechreuwyd i gofnodi perthynas rhwng yr enwau a gofnodwyd â'r pen-deulu ym 1851 ynghyd â manylion pellach o le hanwyd pobl. Arhosodd hyn mwy neu lai yr un fath rhwng 1851 ac 1901, gyda mwy a mwy o fanylder ynglŷn â'r cyfeiriad yn cael ei ategu. Yng Nghymru, cyflwynwyd cwestiwn am y Gymraeg am y tro cyntaf yn 1891.[1] Cofnodwyd os oedd person yn siarad Cymraeg, Saesneg neu'r ddwy iaith.[2]


Cyhoeddwyd cyfrifiad 1901 fanylion am siaradwyr Cymraeg yng Nghymru eto, ond y tro hwn gyda rhai tair oed a throsodd, patrwm sydd wedi parhau hyd heddiw. O ran y data, categoreiddwyd siaradwyr Cymraeg yn ôl oedran a rhywedd. Casglwyd data ar gyfer siroedd gweinyddol, bwreistrefi, ardaloedd dinesig a gwledig. [3]

Nid oedd y manylion a roddir yn y cyfrifiad wastad yn fanwl gywir oherwydd lefel isel llythrennedd ymysg pobl ar y pryd. Saesneg fel arfer oedd prif iaith y cyfrifwyr, felly Seisnigwyd enwau Cymraeg yn aml a chamsillafwyd enwau lle a phersonol. Llenwyd y ffurflenni oll gan Gyfrifwr ar ffurf tabl. Roedd gan bob ardal ei Chyfrifwr ei hun a chymerwyd y cyfrifiad i gyd ar un noson, pob deng mlynedd fel rheol. Erbyn heddiw, nid oes cyfrifwyr, a dosberthir un ffurflen ar gyfer pob tŷ a disgwylia'r gyfraith y rhain gael eu llenwi a'i dychwelyd i'r cyfeiriad priodol erbyn y dyddiad penodol.

Ni chymerwyd y cyfrifiad ym 1941, oherwydd yr Ail Ryfel Byd.

Gwelwyd dirywiad mawr yn canran siaradwyr Cymraeg wedi'r Ail Ryfel Byd. Dirywiodd y bobl 3 oed a throsodd a fedr siarad y Gymraeg o 36.8% (909,261 o bobl) yn 1931 i 28.9% (714,686 o bobl) erbyn 195 1[4]. Collwyd mwy o siaradwyr yn ôl cyfrifiad 1961-1971. Ni gwelwyd unrhyw arwydd calonogol nes cyfrifiad 1971.

Yn 2001, roedd llawer o gwynion am y diffyg blwch i nodi cenedligrwydd Cymreig a gwrthododd nifer o bobl lenwi'r ffurflenni mewn canlyniad.

Cafwyd y cyfrifiad diwethaf yn 2011.

Delir y cyfrifiadau o dan glo am gan mlynedd ond mae ystadegau'r cyfrifiad ar gael bron yn syth. Y rheswm am hyn yw cadw manylion personol yr unigolion a restrir arnynt yn gyfrinachol. Y cyfrifiad diweddaraf sydd ar gael yn llawn yw 1901, erbyn hyn mae lluniau ac adysgrifau o'r cyfrifiadau ar gael ar y we, sydd wedi gwneud ymchwil hanesyddol yn llawer haws, ac wedi achosi atgyfodiad ym mhoblogeiddrwydd hel achau dros y byd.

Cyfrifiadau yng Nghymru a Lloegr golygu

Blwyddyn Dyddiad Ar Gael
1841 6 Mehefin ar gael
1851 30 Mawrth ar gael
1861 7 Ebrill ar gael
1871 2 Ebrill ar gael
1881 3 Ebrill ar gael
1891 5 Ebrill ar gael
1901 31 Mawrth ar gael
1911 2 Ebrill ar gael
1921 19 Mehefin ar gael
1931 26 Ebrill Dinistriwyd yn y rhyfel
1939 29 Medi (Cofrestriad Cenedlaethol) ar gael
1941 Dim cyfrifiad -
1951 8 Ebrill ar gael
1961 23 Ebrill ar gael
1971 25 Ebrill ar gael
1981 5 Ebrill ar gael
1991 21 Ebrill ar gael
2001 29 Ebrill ar gael
2011 27 Mawrth ar gael
2021 21 Mawrth heb gynnal eto

Cyfrifiad Ynys Manaw golygu

Deilwyd cyfrifiad diweddaraf Ynys Manaw ar ddydd Sul 23 Ebrill 2006, pum mlynedd ar ôl y diwethaf.[5] Roedd hyn yn wahanol i'r arfer, pan gymerir cyfrifiad pob 10 mlynedd, penderfynodd y Llywodraeth ddal cyfrifiad ychwanegol oherwydd y credont i'r boblogaeth godi'n sydyn iawn yn y cyfnod rhwng 2001 ac 2006.[6] Cymerwyd cyfrifiad interim pob deng mlynedd ers 1966 yn ogystal[7][8] ond fel rheol cymerir y cyfrifiad yn Ynys Manaw'r un pryd ac yng ngweddill Lloegr a Chymru, gan ddefnyddio'r un ffurflenni.[9]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Language questions in Wales, Matthew Woollard Adalwyd 10 Hydref 2014
  2. Language spoken in Wales and Monmouthshire, Vision of Britain Adalwyd 10 Hydref 2014
  3. Griffiths, I.; Aitchison, John; Carter, Harold (1996-07). "A Geography of the Welsh Language 1961-1991". The Geographical Journal 162 (2): 230. doi:10.2307/3059899. ISSN 0016-7398. http://dx.doi.org/10.2307/3059899.
  4. A., Jenkins, Geraint H. Williams, Mari (2000). "Eu hiaith a gadwant"? : y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 1-4175-1612-7. OCLC 55872689.
  5. (Saesneg) BBC (13 Ebrill 2006). BBC NEWS. BBC. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
  6. (Saesneg) BBC (17 Ionawr 2006). BBC NEWS. BBC. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
  7. (Saesneg) Y Goron. Isle of Man Census 1996 - Isle of Man Treasury Department - Economic Affairs. Y Goron. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
  8. (Saesneg) Y Goron. Isle of Man Census 2006: Introduction - Isle of Man Treasury Department - Economic Affairs. Y Goron. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
  9. (Saesneg) Ancestry.com. UK Census Collection - Ancestry.co.uk. Ancestry.com. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
Chwiliwch am cyfrifiad
yn Wiciadur.