Coleg Darwin, Caergrawnt


Coleg Darwin, Prifysgol Caergrawnt
Sefydlwyd 1964
Enwyd ar ôl Teulu Charles Darwin
Lleoliad Silver Street, Caergrawnt
Chwaer-Goleg Coleg Wolfson, Rhydychen
Prifathro Mary Fowler
Is‑raddedigion dim
Graddedigion 674
Gwefan www.darwin.cam.ac.uk

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg Darwin (Saesneg: Darwin College). Fe'i sefydlwyd ym 1964, a Choleg Darwin oedd coleg cyntaf Caergrawnt ar gyfer graddedigion yn unig. Dyma oedd y coleg cyntaf hefyd i dderbyn dynion a menywod i astudio yno. Enwyd y coleg ar ôl un o raddedigion enwocaf y brifysgol, Charles Darwin. Arferai teulu Darwin fod yn berchen ar dir lle mae'r coleg wedi ei leoli.

Mae gan y coleg tua 600 o fyfyrwyr, gyda'r mwyafrif ohonynt yn astudio am raddau PhD neu MPhil. Daw tua hanner y myfyrwyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig. Darwin yw coleg fwyaf Caergrawnt ar gyfer graddedigion ac yno y ceir y nifer uchaf o fyfyrwyr graddedig o holl golegau Caergrawnt.

Cynfyfyrwyr golygu

Cymrodorion golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gaergrawnt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.