Jean Olwen Thomas

Biocemydd o'r Bala

Biocemegydd o Dreboeth, Abertawe, yw Jean Olwen Thomas DBE FRS FMedSci MAE FLSW (ganwyd 1 Hydref 1942). Cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd y Merched Llwyn-y-Bryn a Choleg Prifysgol Cymru Abertawe (lle enillodd BSc dosbarth cyntaf anrhydedd mewn cemeg yn 1964) a PhD yn 1967[1]. Mae hi'n Athro Emeritws mewn Biocemeg Macromoleciwlar ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (1986). Cafodd gyrfa disglair yn ymchwilio i cromatin (yng nghnewyllyn y gell) yn Adran Biocemeg Prifysgol Caergrawnt. Cyfrannodd peth o'i gwaith at lwyddiant cyfaill iddi, Roger Kornberg, ennill Gwobr Nobel mewn Cemeg yn 2006[2]. Yng Nghaergrawnt bu'n Feistr ar Goleg St Catherine's[3]. Hi oedd y ferch gyntaf i'w hethol i'r swydd. Yn 2018 fe'i hapwyntiwyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe[4] (yn dilyn Rhodri Morgan).

Jean Olwen Thomas
Ganwyd1 Hydref 1942 Edit this on Wikidata
Treboeth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbiocemegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Fellow of the Royal Society of Biology, Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol Edit this on Wikidata

Yn ogystal â nifer helaeth o gyfrifoldebau ac anrhydeddau rhyngwladol, anrhydeddwyd Jean Thomas gan nifer o sefydliadau Cymreig, gan cynnwys cymmrodoriaethau er anrhydedd o Brifysgolion Abertawe (1987), Caerdydd (1998) ac Aberystwyth (2009 - fel cydnabyddiaeth iddi fel gwyddonydd Cymreig[1]) a Doethuriaeth er anrhydedd gan Prifysgol Cymru yn 1992. Yn 2010 hi oedd un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru[5] a hi oedd enillydd gyntaf Medal Frances Hoggan[6] y gymdeithas honno yn 2016.

Yn ôl Athro Syr John Meurig Thomas, "Mae hi'n uchel ei pharch yn y byd biocemeg."

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Y Fonesig Athro Jean Thomas". Prifysgol Aberystwyth. 2009. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
  2. "The Nobel Prize in Chemistry 2006". Gwobr Nobel. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
  3. "St Catharine's College elects new Master". Prifysgol Caergrawnt. 2006. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
  4. "Swansea University appoints Dame Jean Thomas as chancellor". BBC Wales. 8 Ionawr 2018. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
  5. "Professor Dame Jean Thomas". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
  6. "The Frances Hoggan Medal". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. 26 Mai 2016. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.