Coleg Sir Benfro
Mae Coleg Sir Benfro ac ar lafar, Coleg Penfro (Saesneg: Pembrokeshire College) yn darparu addysg alwedigaethol amser llawn a rhaglenni Safon Uwch ar gyfer myfyrwyr 14-19 oed ac amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion a chyflogwyr. Cyfanswm y myfyrwyr cofrestredig mewn addysg amser llawn a rhan-amser yw tua 14,500. Mae'r Coleg hefyd yn cynnig NVQs a rhaglenni achrededig eraill, yn ogystal â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru. [1] Mae rhai cyrsiau yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'n aelod o rwydwaith y sector, ColegauCymru.
Math | ysgol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Hwlffordd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7924°N 4.9814°W |
Cod post | SA61 1SZ |
Adeilad
golyguLleolir y Coleg ym Merlin's Bridge, Hwlffordd sef, prif dref Sir Benfro. Pennaeth y Coleg yw Dr Barry Walters. Arferai'r coleg fod tu ôl i lyfrell y dref a Dew St a Barn St ond mae'r safle bellach yn ganolfan gymunedol a chlwb ieuenctid.
Mae ffreutur y Coleg, a adwaenir fel 'the refectory', wedi'i ryddfreinio i Chartwell's.
Ceir sectorau arbennig i'r campws sef: Atriwm, Gweithdai, Ystafelloedd Celf, Bwyty, Salonau a Meithrinfa 'Bright Start'.[2]
Cyrsiau
golyguCeir amrywiaeth eang o gyrsiau: ar-lein, Datblygu Staff, Dysgwyr sy'n Oedolion, Lefel Uwch, Prentisiaethau, ac Ymadawr yr Ysgol.[3]
Ymysg y meysydd a'r pynciau mae:
|
|
Chwaraeon
golyguMae'r Coleg yn cynnwys Academi Chwaraeon sy'n darparu hyfforddiant mewn pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd.
Y Gymraeg yn y Coleg
golyguEr mai Saesneg yw prif iaith weinyddol a dysgu'r Coleg, ceir peth dysgu yn y Gymraeg. Gellir sefyll arholiadau TGAU Cymraeg iaith Gyntaf, a Mathemateg, Lefel A Cymraeg Ail Iaith, Bagloriaeth Gymru a chefnogaeth arall. Ceir elfennau Cymraeg mewn cyrsiau fel Gofal Iechyd[4] a Phrentisiaethau megis Gosodiadau Trydanol sydd wedi ei ddatblygu a hyrwyddo ar y cyd gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pembrokeshire College: Welsh Baccalaureate Archifwyd 2010-01-23 yn y Peiriant Wayback Retrieved 31 January 2010
- ↑ "Y Coleg". Pembrokeshire College. Cyrchwyd 2023-05-24.
- ↑ "Cyrsiau". Pembrokeshire College. Cyrchwyd 2023-05-24.
- ↑ "You searched for Yr iaith Gymraeg". Pembrokeshire College. Cyrchwyd 2023-05-24.
- ↑ pembscol (2023-02-15). "Ifan Embraces Role of Ambassador". Pembrokeshire College. Cyrchwyd 2023-05-24.