Coleg y Bala

adeiladwaith pensaernïol rhestredig Gradd II yn Y Bala

Coleg y Bala yw canolfan gwaith plant ac ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Saif yr adeilad presennol a adeiladwyd ym 1863, ar bwys y ffordd sy'n arwain o'r Bala i Borthmadog.

Hanes golygu

Codwyd yr adeilad fel Coleg Hyfforddi enwad y Methodistiaid Calfinaidd ar gyfer y weinidogaeth. Bu drwy lawer o gyfnewidiadau yn ei hanes, ac erbyn diwedd ei gyfnod fel coleg hyfforddi, yr oedd y flwyddyn baratoad ymarferol ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig yn cael ei gynnig yno tra roedd y rhan fwyaf o'r cwrs hyfforddi diwinyddol yn cael ei gynnig yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth. (Nid oes unrhyw gysylltiad rhyngddo â Choleg Bala-Bangor).

Wedi aros yn segur am rhai blynyddoedd, pryd y cafodd y llyfrgell eang oedd yno ei dosbarthu a'i rhannu, fe gafwyd gweledigaeth i droi yr adeilad yn ganolfan gwaith ieuenctid. Bu'r Parch. Dafydd Owen yn gyfrifol am sefydlu'r gwaith hwn ym 1968. Ei weledigaeth oedd gweld canolfan gyd-enwadol a fyddai'n annog ac yn cynnig hyfforddiant yn eu ffydd i ieuenctid yng Nghymru. Er na welwyd yr enwadau Cymreig eraill yn rhoi eu cefnogaeth i'r ganolfan, fe dyfodd y gwaith a ffrwytho yn helaeth o dan arweiniad nifer o Swyddogion Ieuenctid dros y blynyddoedd. Yn fuan iawn, o dan arweiniad Miss Gwen Rees Roberts (ar ôl ei dychweliad hi o'r maes cenhadol ym Mizoram, India fe ddaeth y gwaith i gynnwys gweithio ymhlith plant hefyd.

Gweithgareddau golygu

Trwy gydol y flwyddyn, mae'r Coleg yn rhedeg nifer o gyrsiau ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau. Mae nifer o eglwysi a chlybiau ieuenctid ar draws Cymru yn anfon criwiau yno.

Souled Out

Yn flynyddol ym mis Awst danfonir ieuenctid o 15 oed i fyny ar Gwrs Hyfforddi Souled Out. Dechreuodd y cwrs dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) hwn yn ystod haf 1997 yng Ngholeg y Bala ar gyfer ieuenctid o blith Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Bu cysylltiad rhyngddo dros y blynyddoedd â gweinidogaeth Andrew Ollerton. Mae'n cynnwys ieuenctid o nifer o draddodiadau Cristnogol ac enwadau yng Nghymru. Sefydlwyd grwpiau rhanbarthol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.