Mae Mizoram yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain India, yn ffinio ar Myanmar yn y dwyrain a'r de a Bangladesh yn y gorllewin. Roedd yn rhan o dalaith Assam hyd 1973, pan ddaeth yn Diriogaeth yr Undeb. Daeth yn dalaith ym mis Chwefror 1987. Y brifddinas yw Aizawl.

Mizoram
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
PrifddinasAizawl Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,097,206 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 20 Chwefror 1987 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPu Zoramthanga Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd21,081 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAssam, Tripura, Manipur, Bangladesh, Myanmar Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau23°N 93°E Edit this on Wikidata
IN-MZ Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolMizoram Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholMizoram Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethNirbhay Sharma, Gulab Chand Kataria Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Mizoram Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPu Zoramthanga Edit this on Wikidata
Map

Roedd y boblogaeth yn 888,573 yn 2001. Mae llythrennedd yn y dalaith yr ail-uchaf yn India, 88.8% o'r boblogaeth; dim ond Kerala sy'n uwch. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn perthyn i lwyth y Mizo, ac mae tua 87% o'r boblogaeth, gan gynnwys bron y cyfan o'r Mizo, yn Gristnogion.

Bu cyswllt rhwng Cymru â'r dalaith hon oddi ar i'r cenhadwr cyntaf o Gymru (y Parch. D. E. Jones o Landderfel, ger y Bala), gyrraedd yno ym 1894. Mae'r eglwys a sefydlwyd yno yn synod, ac yn ffurfio rhan o Eglwys Bresbyteraidd India. Dychwelodd y cenhadon olaf o Gymru oddi yno ym 1969 wedi cyfnod o ansefydlogrwydd gwleidyddol. Bu'r dalaith yn ardal gyda chyfyngiadau ar ymwelwyr hyd yn gymharol ddiweddar.

Lleoliad Mizoram yn India


Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry