Columbia (papur newydd)
papur newydd Cymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau
Papur newydd dwyieithog, hanner yn Gymraeg a hanner yn Saesneg, a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau oedd Columbia. Bu'n bapur dylanwadol ym mywyd Cymry'r Unol Daleithiau yn rhan olaf y 19eg ganrif a dechrau'r ganrif olynol.
Enghraifft o: | papur newydd |
---|---|
Iaith | Cymraeg, Saesneg |
Sefydlwyd y papur ym mis Gorffennaf, 1887, gan gwmni Cymreig yn Emporia, Kansas, dan olygyddiaeth y Parch. W. D. Evans, gweinidog o'r dref honno. Roedd yn cael ei rannu yn ddwy ran gyfartal yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn cael ei gyhoeddi yn wythnosol, ar ddydd Iau. Pris tanysgrifiad am flwyddyn oedd $2.00.
Symudwyd swyddfa'r papur i Chicago ym mis Awst, 1891, wrth i gymuned Gymreig y ddinas honno baratoi am Ffair y Byd Chicago, 1893 ac Eisteddfod Ffair y Byd.
Daeth y papur i ben yn chwarter cyntaf yr 20g.
Ffynhonnell
golygu- T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymreig... (Treffynnon, 1893). Pennod V.