Eisteddfod Ffair y Byd

Eisteddfod a gynhaliwyd yn ninas Chicago yn 1893 oedd Eisteddfod Ffair y Byd, fel mae'n cael ei hadnabod yn gyffredinol, neu Eisteddfod Chicago.

Eisteddfod Ffair y Byd
Enghraifft o'r canlynoleisteddfod Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Ffair y Byd Chicago, 1893

Yr ysgogiad a barodd i Americanwyr Cymreig leol drefnu'r eisteddfod oedd achlysur Arddangosfa Columbia (World's Columbian Exposition) yn y ddinas yn 1893. Roedd gan y ddinas boblogaeth o tua 1,500 o deuluoedd o dras Cymreig, a threfnwyd yr eisteddfod gan y Cambrian Benevolent Society lleol, a gwŷr busnes o Gymru fel Samuel Job, un o weithredwyr y cwmni Pullman. Gyda'r bwriad o efelychu Ffair y Byd yn ei rhwysg, gosodwyd yr eisteddfod ar safle'r ffair fel math o arddangosfa ryngwladol o'r diwylliant Cymreig ar ei orau. Cofnodir fod hyd at 6,000 o bobl ar y tro wedi tyrru i'r Neuadd i wrando corau Cymraeg. Ond ychydig iawn o gystadleuwyr llenyddol a ddaeth i'r eisteddfod a gwelir hyn yn arwydd o ddirywiad y Gymraeg fel iaith byw ym mywyd Cymry'r Unol Daleithiau. Tynnodd orymdaith yr Orsedd yn eu gwisg "derwyddol" sylw'r wasg yn Chicago ac roedd y cyhoeddusrwydd yn gyffredinol yn cael ei weld gan y Cymry fel arwydd eu bod bellach yn rhan gydnabyddedig o genedl yr Unol Daleithiau fel grŵp ethnig a dinesyddion parchus.

Un o'r cystadleuwyr a gafodd eu gwobrwyo oedd Erasmus Jones, Cymro o blwyf Llanddeiniolen a ymfudodd i fyw yn Utica, Efrog Newydd. Un arall oedd y gweinidog Undodaidd dylanwadol Jenkin Lloyd Jones. Enillwyd y Gadair gan Evan Rees (Dyfed).

Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu