Commander-1
Nofel a gyhoeddwyd gyntaf ym 1965 gan yr awdur Cymreig Peter Bryan George yw Commander-1 Mae'n delio â chanlyniad rhyfel niwclear rhwng yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd a Gweriniaeth Pobl Tsieina. Hwn oedd gwaith cyhoeddedig olaf George, cyn i'r awdur cyflawni hunanladdiad ym 1966.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Peter George |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1965 |
Prif bwnc | y Rhyfel Oer |
Plot
golyguMae aparatshic Comiwnyddol Tsieineaidd addawol o'r enw Li yn dyfeisio cynllun gyda chymorth gwyddonydd niwclear amlwg a chadfridog Byddin Rhyddhad y Bobl i gynhyrchu arf niwclear. Maent yn plannu'r arfau y tu allan i ganolfannau o bwysigrwydd strategol sy'n eiddo i'r Unol Daleithiau ac yn eu tanio fel ei bod yn ymddangos bod yr Undeb Sofietaidd wedi ymrwymo i'r streic gyntaf mewn rhyfel niwclear. Mae'r Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd ill dau yn defnyddio'u harfau niwclear, gan ddileu ei gilydd a dinistrio'r Pentagon a lladd Arlywydd yr UD.
Yn y cyfamser, mae'r unig long danfor sydd ar ôl yn fflyd yr UD, sydd wedi bod ar alldaith yn cynnal arbrawf ar ynysu cymdeithasol o dan y rhew pegynol, yn dod yn ôl i'r porthladd ar ôl derbyn newyddion am yr holocost niwclear. Mae'r capten y llong danfor yn gollwng y goroeswyr ar ynys anghyfannedd yn y Môr Tawel na chafodd ei effeithio gan effeithiau'r rhyfel. Cyn bo hir, mae'r goroeswyr yn darganfod bod yr ynys, mewn gwirionedd, yn fyncer enfawr ar gyfer y fath ddigwyddiad. Mae dau o'r goroeswyr yn lladd eu hunain ar ôl iddynt feichiogi plentyn, y credant y bydd yn cael ei eni'n fwtant oherwydd presenoldeb babi fwtant a gynhyrchir gan un o epaod yr ynys.
Mae'r llong danfor yn mynd i ganolfan lyngesol yr Unol Daleithiau sydd wedi goroesi, lle mae'n dod o hyd i fyddin yn dal eu tir yn erbyn goroeswyr sifil dan arweiniad cyn aelod o'r Gyngres. Mae'r capten y llong danfor, James Geragty, yn troi'r sifiliaid yn eneidiau difeddwl, gan ddefnyddio cyffuriau o'r cyflenwadau meddygol yn y ganolfan, ac yn mynd â nhw ar fwrdd ei long danfor i'w ynys yn y Môr Tawel fel caethweision. Yno mae Geragty yn sefydlu ei hun fel Arlywydd newydd yr UD, ac yn gosod ei gaethweision i weithio i adeiladu ei baradwys newydd. Mae'r sawl a fu'n rhan o'i arbrawf o dan y rhew yn ei wrthod fel un dotalitaraidd.
Mae Gergaty yn datgan y bydd yn ceisio dinistrio unrhyw oroeswyr Sofietaidd y gallai ddod o hyd iddynt. Mae'n caniatáu i'r sawl a fu'n rhan o'i arbrawf gwreiddiol i ymadael mewn dingi rwber, gan honni y bydd yn gadael iddynt fynd i ynys arall. Wrth iddynt arnofio ar y cefnfor, mae Geragty yn eu lladd gyda gwn peiriant, gan ddinistrio pob un oedd yn anghytuno a'i syniad o gymdeithas newydd.
Yn Tsieina, datgelir pa mor wael y camgyfrifodd Li wrth weithredu ei gynllwyn dieflig. Tra bod yr Americanwyr a'r Sofietau wedi dinistrio'i gilydd, ni adawodd hynny China yn rhydd i hawlio'r byd; yn hytrach, neilltuodd yr Americanwyr a'r Sofietau rai o'u taflegrau ar gyfer ymosodiad ar Tsieina, digon i ddinistrio'r wlad yn llwyr. Mae Li yn cwrdd â diwedd erchyll yn nwylo band o filwyr Tsieineaidd oedd wedi goroesi.