Peter George

nofelydd o Gymru

Awdur Cymreig oedd Peter Bryan George (26 Mawrth 1924 - 1 Mehefin 1966), a oedd fwyaf enwog am y nofel gyffro wedi ei osod yng nghyfnod y Rhyfel Oer Red Alert (1958) a gyhoeddwyd i ddechrau gyda'r teitl Two Hours To Doom ac a ysgrifennwyd gan ddefnyddio'r ffugenw Peter Bryant. Y llyfr oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ffilm glasurol Stanley Kubrick, Dr. Strangelove or: How I Learned to Stop Worrying and Love the Bomb.

Peter George
Ganwyd24 Mawrth 1924, 26 Mawrth 1924 Edit this on Wikidata
Treorci Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mehefin 1966 Edit this on Wikidata
Hastings Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganwyd George ym 1924 yn Nhreorci, a bu farw yn Hastings, Dwyrain Sussex. Roedd yn is-gapten hedfan ac yn llywiwr i'r Llu Awyr Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan wasanaethu gyda Sgwadron Rhif 255 RAF, gan hedfan teithiau ymladdwyr nos dros Malta a'r Eidal. Ailymunodd â'r RAF gan wasanaethu yn RAF Neatishead fel rheolwr ymladdwyr[1] lle'r oedd yn aml yn ysgrifennu tra ar ddyletswydd ac yn defnyddio ffugenw. Ymddeolodd o'r gwasanaeth ym 1961.[2]

Gwaith golygu

Ysgrifennwyd ei nofel fwyaf adnabyddus, Red Alert tra roedd yn swyddog yn gwasanaethu yn yr awyrlu. Wedi'i dynnu o brofiad personol, Red Alert oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ffilm glasurol Stanley Kubrick, Dr. Strangelove neu: How I Learned to Stop Worrying and Love the Bomb.

Achosodd diddordeb mewn themâu arfau niwclear, a sbardunwyd gan fersiwn ffilm Stanley Kramer o’r nofel On the Beach ym 1959, i hawliau addasiad ffilm o Red Alert gael eu gwerthu'r flwyddyn honno, ond ni wnaed dim a'r hawliau hyd iddynt gael eu prynu gan Stanley Kubrick eu prynu ym 1962, yn ôl pob sôn am gyn lleied â $3,500.

Derbyniodd Peter George gredyd fel cyd-ysgrifennu'r sgript sgrin y ffilm gyda Kubrick a Terry Southern' er nad yw'n eglur faint o fewnbwn a gafodd mewn gwirionedd, a dywedwyd ei fod yn anfodlon â'r elfen comedi a gymhwysodd Kubrick i'r deunydd. Fel cyd-ysgrifennwr, rhannodd enwebiad Oscar "Sgript Sgrin Orau wedi'i Addasu ". Ar ôl i'r ffilm gael ei rhyddhau, ysgrifennodd addasiad o'r nofel wedi ei gymhwyso'n agosach i'r ffilm na'r llyfr gwreiddiol sef Dr. Strangelove a'i gyflwyno i Kubrick. Roedd allan o brint am nifer o flynyddoedd ond cafodd ei ailgyhoeddi yn 2015 gan Candy Jar Ltd yn cynnwys deunydd nas cyhoeddwyd o'r blaen yn ymwneud â gyrfa gynnar Strangelove, gyda rhagair gan fab David George.[3]

Marwolaeth golygu

Ar 1 Mehefin 1966, daethpwyd o hyd i Peter George yn farw gyda dryll dwy faril wedi'i tanio rhwng ei liniau; dyfarnwyd hunanladdiad fel achos ei farwolaeth.[4]

Roedd nofel olaf George cyn ei hunanladdiad, Commander-1, yn rhagweld byd ôl-apocalyptaidd lle mae grŵp o oroeswyr yn cael ei ormesu gan unben.

Cofiwch!

Byw yng ngwledydd Prydain? Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim ar: 116 123 unrhyw dro, os ydych yn teimlo'n isel.
Byw yn yr Ariannin? Ffoniwch 107 neu +5402234930430.
Mae rhannu eich pryder yn help ac yn beth da. Awduron lleyg sy'n cyfrannu at Wicipedia,
ond mae cysylltu gyda phobl broffesiynol, a all eich helpu, yn llawer gwell!


Nofelau golygu

  • Come Blonde, Came Murder (T. V. Boardman, 1952) fel "Peter George".
  • Pattern Of Death (T. V. Boardman, 1954) fel "Peter George".
  • Cool Murder (T. V. Boardman, 1958) fel "Peter George"; cafodd ei ail gyhoeddi mewn clawr meddal (Mayflower, 1965) gan "Bryan Peters".
  • Two Hours To Doom (T. V. Boardman, 1958) fel "Peter Bryant" - ail gyhoeddwyd o dan y teitl Red Alert (Ace, 1958)
  • Hong Kong Kill (T. V. Boardman, 1958) fel "Bryan Peters".
  • The Big H (T. V. Boardman, 1961) fel "Bryan Peters".
  • The Final Steal (T. V. Boardman, 1962) fel "Peter George".
  • Dr. Strangelove or: How I Learned to Stop Worrying and Love the Bomb (Corgi, 1963) fel "Peter George";
  • Commander-1 (Heinemann, 1965) fel "Peter George".

Cyfeiriadau golygu

  1. p. 10 Case, George Calling Dr. Strangelove: The Anatomy and Influence of the Kubrick Masterpiece McFarland, 7 Aug 2014
  2. Sikov, Ed (2003). Mr. Strangelove: A Biography of Peter Sellers. Hyperion. t. 190. ISBN 978-0-7868-8581-7. Cyrchwyd 24 June 2009.
  3. Films, Candy Jar (2014-10-15). "The Candy Jar Blog: CANDY JAR PUBLISHES CLASSIC". The Candy Jar Blog. Cyrchwyd 2019-10-16.
  4. Jones, Nick. "Commander-1: The Life and Death of Author Peter George, alias Peter Bryant / Bryan Peters, co-writer of Dr. Strangelove; inc. Bibliography". Existential Ennui. unk. Cyrchwyd 16 Hydref 2019.