Duwies Cytgord (byw yn gytûn) yn y Rhufain hynafol oedd Concordia. Roedd hi'n bersonoliad o gytgord, yn enwedig rhwng dinasyddion Rhufeinig, un o sawl duw a duwies a ddyfeiswyd i gynrychioli syniadau a rhinweddau.

Concordia
Cerflun Rhufeinig o'r dduwies Concordia yn Amgueddfa'r Bardo, Tunis
Enghraifft o'r canlynolduwdod Rhufeinig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Codwyd nifer o demlau i Concordia yn Rhufain yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain ar ddiwedd y rhyfeloedd cartref. Y gynharaf a gofnodir yw'r un a godwyd gan Camillus yn 367 CC. Roedd hi'n cael ei haddoli yng ngŵyl y Caristia gyda Ianws, Salus a Pax, ar 30 Mawrth bob blwyddyn. Ar y 1af o Awst arferid gwragedd priod ei haddoli gyda Gwener a Fortuna (gweler Manes).

Yn y cyfnod Awgwstaidd, addolid Concordia Augusta yn nheulu'r ymerodr fel amddiffynes cytgord, yn enwedig mewn cysylltiad â pherthynas gŵr a gwraig.

Ffynhonnell golygu

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).