Conrad Vernon

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Lubbock yn 1968

Cynhyrchydd ffilm, actor llais ac awdur sgriptiau Americanaidd yw Conrad Vernon IV (ganwyd 11 Gorffennaf 1968).[1] Mae'n cael ei adnabod yn bennaf am ei waith ar gyfer cyfres o ffilmiau animeiddiedig 'DreamWorks' , sef Shrek a'r ffilmiau Monsters vs. Aliens a Madagascar 3: Europe's Most Wanted.

Conrad Vernon
Ganwyd11 Gorffennaf 1968 Edit this on Wikidata
Lubbock, Texas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Celf California Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llais, cyfarwyddwr ffilm, animeiddiwr, arlunydd bwrdd stori, sgriptiwr, cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd ffilm, actor, actor ffilm, cyfarwyddwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Brodor o Lubbock, Texas, yw Conrad ac astudiodd yng ngoleg celf California, ac yna fel awdur storiau e.e. Cool World, 2 Stupid Dogs, Rocko's Modern Life, Nightmare Ned, a Morto the Magician.[2] Yn 1996, ymunodd gyda DreamWorks, ble gweithiodd fel storyboard artist ar y ffilm Antz.[3] Wedi ymddangosiad a llwyddiant diamheuol Antz cychwynodd weithio ar Gingerbread Man, ac o fewn dim, roedd wedi derbyn rol fel llais y prif gymeriad.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cannes Film festival: Conrad Vernon". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-02-02. Cyrchwyd 2006-06-01.
  2. "Conrad Vernon (I)". IMDb. Cyrchwyd 2006-06-01.
  3. DreamWorks Animation. "Madagascar 3 Europe's Most Wanted - Production Information" (PDF). Festival Cannes. t. 17. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-03. Cyrchwyd 29 Mai 2012.