Monsters vs. Aliens

Mae Monsters vs. Aliens ("Angenfilod un erbyn Aliwns") yn ffilm 3-D sydd wedi'i hanimeiddio ar gyfrifiadur gan DreamWorks Animation a Paramount Pictures. Dyma oedd y ffilm animeiddiedig ar gyfrifiadur gyntaf i gael ei chynhyrchu'n syth i fformat 3-D stereosgopig, yn hytrach na chael ei throsi i 3-D ar ôl iddi gael ei chwblhau. Ychwanegodd hyn $15 miliwn at gost y ffilm.

Monsters vs. Aliens

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Conrad Vernon
Rob Letterman
Cynhyrchydd Lisa Stewart
Jill Hopper (cyd-gynhyrchydd)
Latifa Ouaou (yd-gynhyrchydd)
Ysgrifennwr Maya Forbes
Wallace Wolodarsky
Rob Letterman
Jonathan Aibel
Glenn Berger
Conrad Vernon
Serennu Reese Witherspoon
Seth Rogen
Hugh Laurie
Will Arnett
Rainn Wilson
Kiefer Sutherland
Stephen Colbert
Dylunio
Cwmni cynhyrchu DreamWorks Animation
Paramount Pictures
Dyddiad rhyddhau 27 Mawrth, 2009 (UDA)
2 Ebrill, 2009 (Awstralia)
3 Ebrill, 2009 (DU)
Amser rhedeg 95 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm ym mis Mai 2009, ond symudwyd y dyddiad i'r 27ain o Fawrth, 2009, er mwyn osgoi gwrthdaro gyda rhyddhad y ffilm Avatar,. Mae Monsters vs. Aliens yn cynnwys lleisiau Reese Witherspoon, Seth Rogen, Hugh Laurie, Will Arnett, Rainn Wilson, Kiefer Sutherland, Stephen Colbert, a Paul Rudd.

Dolenni Allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.