Gweision neidr torchog
Gweision neidr torchog Cordulegastridae | |
---|---|
Cordulegaster heros | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Cordulegastridae |
Genera: |
Teulu o Weision neidr ydy Cordulegastridae, a adnabyddir yn gyffredin gyda'r enw Gwas neidr torchog (lluosog: Gweision neidr torchog) (Saesneg: spiketails).[1] Mae'r hen enw Saesneg ar y teulu hwn ("flying adder") yn ddigon tebyg i'r hen enw Cymraeg (gwas y "neidr"). Gyda'i gilydd, mae'r gweision neidr a'r Mursennod yn ffurfio Urdd a elwir yn Odonata.
Fe'i ceir ledled y byd; mae pob un o'r wyth rhywogaeth i'w cael yng Ngogledd America ac yn perthyn i'r genws Cordulegaster.
Mae eu cyrff yn gymharol fawr, gyda marciau oren ar gefndir brown neu ddu. Eu cynefin yw nentydd glân ger llwyn o goed; mae'n ddigon hawdd ei hadnabod yno gan eu bod yn hedfan yn araf tua 30 i 7070 cm uwch wyneb y dŵr. Os cânt eu dychryn, fodd bynnag, gallant hedfan ar gryn gyflymder.
Yn nhywod gwely'r nant mae'r Cordulegastridae'n dodwy ei wyau, a hynny yn y rhan bâs, fel arfer; i wneud hyn mae'r fenyw yn hofran yn fertig ac yn trochi yn awr ac yn y man i mewn i'r dŵr.[2]
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw Lladin, gwyddonol, "Cordulegastridae" o'r Groeg kordylinus sef 'siâp pastwn' a gaster - bol. Ystyr y gair Cymraeg 'torch' yw 'coron' neu 'goler gron'.[1]
-
Gwas neidr eurdorchog (Cordulegaster boltonii Harriehausen)
-
Gwas neidr torchog brown (Cordulegaster bilineata)
-
Cordulegaster bidentata
-
Gwas neidr y Cefnfor Tawel
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Berger, Cynthia (2004). Dragonflies: Wild Guide. Stackpole Books. ISBN 0-8117-2971-0.
- ↑ Donald Joyce Borror, Dwight Moore DeLong (1971). An introduction to the study of insects. ISBN 978-0-03-082861-4.