Gweision neidr
Gwäell asgell aur - (Sympetrum flaveolum)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teuluoedd[1]

$Uwchdeulu yw Aeshnoidea, Cordulegastroidea a Libelluloidea. $$Nid yw'n gytras

Y gwas neidr Mesurupetala, Jurasig hwyr (Tithonian), calchfaen Solnhofen, yr Almaen.
Un o nodweddion pennaf y gweision neidr yw eu llygaid mawr, symudliw (iridescent).

Pryf gydag adenydd dwbwl sy'n perthyn i urdd Odonata yw gwas neidr (hefyd: gwas y neidr) (lluosog: gweision neidr). Mae'n byw ger llynnoedd, nentydd a gwernydd ac maen nhw'n bwyta mosgitos, gwybed, clêr, gwenyn, gloynnod byw a phryfed eraill. Nid ydynt yn brathu nac yn pigo pobl. Mae'r gair Groeg Anisoptera yn golygu "adenydd anwastad" gan fod yr adain cefn yn lletach na'r rhai blaen.[2]

Un o brif nodweddion y gwas neidr yw ei lygaid cyfansawdd enfawr, dau bâr o adenydd a chorff hir sy'n eu galluogi i weld bron i 360 gradd - i bob cyfeiriad. Fel pob pryfyn arall mae ganddyn nhw chwe choes; ond nid ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, bellach, yn medru cerdded. Mae'r gwas y neidr ymhlith y pryfaid a all hedfan gyflymaf ac am gyfnod hir e.e. ar draws y cefnforoedd. Gallant hedfan i 6 chyfeiriad: ymlaen, yn ôl, i fyny, i lawr, i'r chwith ac i'r dde.[3] Mae'r Ymerawdwyr yn medru hedfan ar gyflymder uchaf o 10–15 metr yr eiliad (22–34 mya).

Dim ond am chwe mis mae rhai gweision y neidr yn byw, tra bod eraill yn byw cyn hired â chwe neu saith mlynedd.

Ceir oddeutu 3000 math gwahanol o weision neidr ac mae tua 5,900 o rywogaethau yn yr urdd Odonata gan gynnwys y mursennod.[4][5]

Ffosiliau a pherthynas teuluoeddGolygu

Mae'r gwas y neidr yn hen grŵp a cheir ffosiliau o weision neidr mawr o gyfnod y Meganisoptera (tua 300-325 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol. Mae gan y ffosiliau hyn faint adenydd o 750 mm (30 mod). Yn y grŵp hwn mae'r Meganeuropsis, sef y pryf mway ei faint ar wyneb y Ddaear. Ceir tua 3,000 rhywogaeth o Anisoptera ar y Ddaear heddiw. Mae'r rhan fwyaf yn drofanol.

'Dyw'r union berthynas rhwng y gwahanol deuluoedd heb ei brofi'n llawn (yn 2015), ondmae'r coeden deulu canlynol yn rhoi syniad i ni o'r berthynas honno. Y llinellau toredig yw' berthynas nad ydyw wedi'i brofi'n llawn.

Anisoptera

Gomphidae (clubtails)





Austropetaliidae



Aeshnoidea ('Ymerawdwyr')



Petaluridae ('Cynffonau petal')





Macromiidae ('Criwserod')






Libelluloidea ('Picellwyr')

Neopetaliidae



Cordulegastridae ('Cylchoedd aur')




Libellulidae (skimmers)



"Corduliidae" [Nid yw'n gytras] ('Y Gweision Gwyrdd')




Synthemistidae ('Cynffonau teigrod)




Chlorogomphidae







Gweision neidr gwledydd PrydainGolygu

Ceir 57 o rywogaethau'r Odonata yng ngwledydd Prydain: mae 21 ohonynt yn fursennod (is-urdd Zygoptera) a 36 ohonynt yn weision neidr (is-urdd suborder Anisoptera). Ond ymwelwyr yw rhai o'r rhain ac mae rhai ar y rhestr wedi hen farw o'r gwledydd hyn. Y niferoedd sy'n parhau i baru ar yr ynysoedd hyn (yn 2015) yw 42, sef 17 o fursennod a 25 o weision neidr. Caiff y rhestr hon ei diweddaru ar adegau gan Odonata Records Committee a ffurfiwyd yn 1998.

Dyma nhw:

Is-urdd Anisoptera (Gweision neidr)
Teulu'r Gomphidae ('Gweision neidr tindrom')
Teulu'r Aeshnidae ('Yr Ymerawdwyr')
Teulu'r Cordulegastridae ('Gweision neidr torchog')
Teulu'r Corduliidae ('Y Gweision gwyrdd')
Teulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr')

Ar lafar, ac yn gyffredinol gelwir y mursennod hefyd yn weision neidr, er nad yw hyn yn hollol gywir. Dyma'r prif grwpiau:

Is-urdd Zygoptera (Mursennod)
Teulu'r Calopterygidae ('Y Morwynion')
Teulu'r Lestidae ('Y Mursennod gwyrdd')
Teulu'r Coenagrionidae ('Y Mursennod coch a glas-ddu')
Teulu'r Platycnemididae ('Y Mursennod coeswen')

Mae gan nifer o weision neidr enwau Cymraeg ac mae'r rheiny ar y cyfan wedi'u canfod yng ngwledydd Prydain ar ryw gyfnod.

Teulu'r Gomphidae - Y Gweision neidr tindromGolygu

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Côd eu statws
  Gwas neidr dindrom [B] Gomphus vulgatissimus   Cymru
  Lloegr
  Gwas neidr coes felen [C] Gomphus flavipes V (1818)

Teulu'r Aeshnidae - Yr YmerawdwyrGolygu

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Côd eu statws
  Gwas neidr y De Aeshna cyanea   yr Alban
  Cymru
  Lloegr
  Gwas neidr brown Aeshna grandis   Cymru
  Lloegr
  Gwas neidr llygadwyrdd Aeshna isoceles   Lloegr[K]
  Gwas neidr Asur Aeshna caerulea   yr Alban
  Gwas neidr glas Aeshna juncea   yr Alban
  Cymru
  Lloegr
  Gwas neidr mudol Aeshna mixta   Cymru
  Lloegr
  Gwas neidr mudol y De [D] Aeshna affinis V (1952)
  Ymerawdwr Anax imperator   Cymru
  Lloegr
  Ymerawdwr bach Anax parthenope   Cymru
  Lloegr
RC (1996)
  Gwas neidr gwyrdd Anax junius V (1998)
  Gwas neidr flewog Brachytron pratense   yr Alban
  Cymru
  Lloegr
  Gwas neidr crwydrol [E] Hemianax ephippiger V (1903)

Teulu'r Cordulegastridae - Gweision neidr torchogGolygu

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Côd eu statws
  Gwas neidr eurdorchog Cordulegaster boltonii   yr Alban
  Cymru
  Lloegr

Teulu'r Corduliidae - Y Gweision GwyrddGolygu

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Côd eu statws
  Gwas gwyrdd blewog Cordulia aenea   yr Alban
  Cymru
  Lloegr
  Gwas gwyrdd gloyw Somatochlora metallica   yr Alban
  Lloegr
  Gwas gwyrdd y Gogledd Somatochlora arctica   yr Alban
  Gwas orenfrith Oxygastra curtisii Ex (1963)

Teulu'r Libellulidae - Y PicellwyrGolygu

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Côd eu statws
  Picellwr praff Libellula depressa   Cymru
  Lloegr
  Picellwr prin Libellula fulva   Lloegr
  Picellwr pedwar nod Libellula quadrimaculata   yr Alban
  Cymru
  Lloegr
  Picellwr tinddu Orthetrum cancellatum   Cymru
  Lloegr
  Picellwr cribog Orthetrum coerulescens   yr Alban
  Cymru
  Lloegr
  Gwäell scarlad Crocothemis erythraea V (1995)
  Gwäell ddu Sympetrum danae   yr Alban
  Cymru
  Lloegr
  Gwäell asgell aur [F] Sympetrum flaveolum V
  Gwäell wythien goch Sympetrum fonscolombei   Lloegr RC
  Gwäell rudd Sympetrum sanguineum   Cymru
  Lloegr
  Gwäell gyffredin [G] Sympetrum striolatum   yr Alban
  Cymru
  Lloegr
  Gwäell grwydrol Sympetrum vulgatum V
  Gwäell resog Sympetrum pedemontanum V (1995)
  Picellwr wynebwyn Leucorrhinia dubia   yr Alban
  Cymru
  Lloegr
  Picellwr wynebwyn mawr [H] Leucorrhinia pectoralis V (1859)
  Y gleider crwydrol [I] [J] Pantala flavescens V (1823)

Gweision neidr yng NghymruGolygu

Yng Nghymru roedd 37 o rywogaethau o Urdd yr Odanata yn paru rhwng 2010 a 2015: 22 o fursennod (Zygoptera) a 15 o weision neidr (Anisoptera).[6]

Dyma'r gweision neidr:

MaintGolygu

Maint gweision neidr Cymru
Enw'r rhywogaeth milimetrau
picellwr wynebwyn
37(Leucorrhinia dubia)
picellwr cribog
44(Orthetrum coerulescens)
gwas gwyrdd blewog
48(Cordulia aenea)
picellwr pedwar nod
48(Libellula quadrimaculata)
picellwr praff
48(Libellula depressa)
picellwr tinddu
49(Orthetrum cancellatum)
gwas neidr flewog
55(Brachytron pratense)
gwas neidr mudol
63(Aeshna mixta)
gwas neidr crwydrol
63(Anax (Hemianax) ephippiger)
gwas neidr y de
70(Aeshna cyanaea)
ymerawdwr bach
71(Anax parthenope)
gwas neidr brown
73(Aeshna grandis)
gwas neidr glas
74(Aeshna juncea)
ymerawdwr
78(Anax imperator)
gwas neidr eurdorchog
84(Cordulegaster boltonii)

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Martin Schorr, Martin Lindeboom, Dennis Paulson. "World Odonata List". University of Puget Sound. Cyrchwyd 25 Mawrth 2014.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. Odonata at Tree of Life web project. Retrieved 2011-09-18.
  3. Waldbauer, Gilbert (2006). A Walk Around the Pond: Insects in and Over the Water. Harvard University Press. t. 105. ISBN 9780674022119.
  4. Dunkle, Sidney W. (2000). Dragonflies Through Binoculars: a field guide to the dragonflies of North America. Oxford University Press. ISBN 0-19-511268-7.
  5. Zhang, Z.-Q. (2011). "Phylum Arthropoda von Siebold, 1848 In: Zhang, Z.-Q. (Ed.) Animal biodiversity: An outline of higher-level classification and survey of taxonomic richness". Zootaxa 3148: 99–103. http://mapress.com/zootaxa/2011/f/zt03148p103.pdf.
  6. www.british-dragonflies.org; adalwyd 16 Awst 2015