Corfilgi
Ci hela a rasio sy'n tarddu o Loegr yw'r Corfilgi,[1] y Milgi Bach[1] neu'r Wipet.[2] Croes rhwng y Milgi a daeargi neu sbaengi yw'r brîd hwn a ddatblygwyd yng nghanol y 19eg ganrif i gwrso ysgyfarnogod. Gall hefyd hela anifeiliaid bychain.[3]
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Gwlad | Lloegr |
Enw brodorol | Whippet |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bu'r Corfilgi yn fychan o'r cychwyn, yn debyg i'r Milgi Seisnig, ac yn hwyrach cafodd y Milgi Eidalaidd ei gymysgu â'r brîd er mwyn rhoi golwg fain iddo. Mae ganddo gôt lefn a chwta, gan amlaf o liw llwyd, gwyn neu felyn. Mae ganddo daldra o 46 i 56 cm ac yn pwyso tua 13 kg. Gall redeg 56 km (35 mi) yr awr.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [whippet].
- ↑ wipet. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Awst 2016.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) whippet. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Awst 2016.