Sbaengi
Math o gi hela yw sbaengi (lluosog: sbaengwn; hen derm: 'ysbaengi') neu sbaniel (lluosog: sbanieliaid) sy'n cynnwys nifer o fridiau o gŵn adara a chŵn-gwn. Fel yr awgryma'r gair, mae'n bosibl fod y sbaengi'n frodorol o Sbaen gan mai tarddiad y gair yw'r Ffrangeg Canoloesol espaigneul (Sbaenaidd). Fe'u bridiwyd i'r perwyl o hel ysglyfaeth fel adar allan o lwyni. Erbyn heddiw ceir mathau anwes, deniadol a cheir fersiwn Cymreig ohono, sef y Sbaengi hela Cymreig a oedd am gyfnod bron a darfod o'r tir, ond a gynyddodd yn ei boblogaeth i oddeutu 400 o gŵn erbyn 2010. Ar un cyfnod defnyddiwyd yr enw 'Sbaengi' mewn modd difrïol am Sbaenwr.[1]
Enghraifft o'r canlynol | math o gi |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Erbyn y 17g, roedd dau fath o frid: rhai'n arbenigo mewn afonydd a llynnoedd ac eraill ar gyfer y llwyni a choedwigoedd. Mae un o fridiau'r grŵp cyntaf, sef y Sbaengi Dŵr Seisnig, bellach yn ddarfodedig, ci a fridiwyd i ddychwelyd at y saethwr gyda'i ysglyfaeth yn ei geg, ond heb ei ddarnio na'i rwygo. Roedd dau fath o Sbaengwn tir: y naill yn arwyddo i'r saethwr union fan yr ysglyfaeth i'w dal gyda rhwydi, a'r llall yn codi'r ysglyfaeth (e.e. ffesantod) er mwyn i'r heliwr ei saethu gyda'i fwa saeth neu ei ddal gyda'i hebog dof. Defnyddiwyd milgwn i hela ysglyfaeth cyflymach e.e. y gwningen.
Yn y 17g, hefyd, newidiwyd rôl y Sbaengi yn sgil datblygiad a phoblogrwydd y gwn callestr i saethu adar. Cofnodwodd Charles Goodhall a Julia Gasow: "Newidiodd y Sbaengi o fod yn gi codi adar, di-hyfforddiant i fod yn gi-gwn llyfn.[2][3]
Hanes
golyguYn yr 16g nododd y meddyg John Caius fod Sbaengwn y cyfnod yn wyn, gan fwyaf, gyda smotiau coch fel arfer, fel y Sbaengi hela Cymreig. Soniodd am frid newydd a fagwyd yn Ffrainc, gyda smotiau gwyn a du "fel marmor" drostynt.[4]
Cred naturiaethwyr i'r Sbaengi gael ei gludo i wledydd Prydain ac Iwerddon gan y Celtiaid mor bell yn ôl a 900 CC.[5] Mae'r cysyniadau sy'n ymwneud â'r Sbaengi hela Cymreig yn cefnogi'r syniadau hyn, ci blewog tebyg i'r Agassian a ddisgrifiwyd gan y Rhufeiniwr Oppian o Apamea, yn ei gerdd Cynegetica a oedd yn un o gŵn y llwyth frodorol Geltaidd:[6]
Ceir brid cryf o gŵn hela, bychan o ran maint, ond mawr o ran clod. Mae'r llwythi gwyllt hyn, gyda'u tatŵs ar eu cefnau, yn bridio ac yn galw math a elwir yn Agassia. Dydy nhw'n ddim mwy (o ran main) na chŵn barus o dan ein byrddau bwyd: cŵn byrdew, tenau, blewog, llygatddu gyda chrafangau cryfion ar ei bawenau a cheg yn llond o ddannedd miniog, gwych am larpio ei ysglyfaeth. Ond ei brif nodwedd, fodd bynnag, yw ei drwyn gwych am ganfod a dilyn ysglyfaeth - dyma'r gorau sydd! Gall ganfod olion olion pawennau neu draed ar y ddaear, a gall ffroeni'r awyr a chanfod ei brae.[7]
- —Oppian, Cynegetica, I, 468–480[8]
Yn 1900 fodd bynnag, codwyd cysyniad arall gan y Cyrnol David Hancock[9] sy'n honi mai o Tsieina y daeth y brid, a thrwy'r Rhufeiniaid i wledydd Prydain.
Disgrifiad
golyguMae gan y Sbaengi got o flew hir, llyfn a chlustiau hirion, diog. Mae'r brid Cymreig yn fwy na'r un Saesneg, a chlustiau ychydig yn llai. Mae gan y Sbaengi Americanaidd lygaid fwy crwn na'r bridiau Cymreig a Seisnig ac mae eu trwynau'n fyrrach a'u aeliau'n fwy blewog. Mae blew Sbaengwn dŵr yn wahanol iawn i flew'r Sbaengi cyffredin gan ei fod yn fyrrach ac yn llyfnach.
Dywedir yn gyffredin fod gan y Sbaengi nodweddion deallus a'i fod yn deyrngar iawn i'w berchennog, nodweddion sy'n ei wneud yn hynod boblogaidd gan ddarpar brynwyr.
Oriel
golygu-
Y Sbaengi adara Seisnig - (Cocker Spaniel)
-
Sbaengi adara Seisnig o liw gwahanol
-
Sbaengi Americanaidd (a elwir hefyd yn Cocker Spaniel)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (GPC);] adalwyd 19 Rhagfyr 2015.
- ↑ Cyfieithwyd o'r Saesneg gwreiddiol: "transformed from untrained, wild beaters, to smooth, polished gun dogs."
- ↑ Goodall and Gasow, The New Complete English Springer Spaniel, 1984.
- ↑ Caius, John; Fleming, Abraham (1880). Of Englishe dogges, the diversities, the names, the natures and the properties. A short treatise written in Latine and newly drawne into Englishe. Bradley. t. 15.
- ↑ Edward of Norwich, Ail Ddug Efrog (1909). The Master of Game. Ballantyne, Hanson & Co. t. 195.
- ↑ "Welsh Springer Spaniel Did You Know?". American Kennel Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-04. Cyrchwyd 11 Chwefror 2010.
- ↑ Er mai Lladin yw'r gwreiddiol, cyfieithwyd y darn yma o'r Saesneg: There is a strong breed of hunting dog, small in size but no less worthy of great praise. These the wild tribes of Britons with their tattooed backs rear and call by the name of Agassian. Their size is like that of worthless and greedy domestic table dogs; squat, emaciated, shaggy, dull of eye, but endowed with feet armed with powerful claws and a mouth sharp with close-set venomous tearing teeth. It is by virtue of its nose, however, that the Agassian is most exalted, and for tracking it is the best there is; for it is very adept at discovering the tracks of things that walk upon the ground, and skilled too at marking the airborne scent.
- ↑ Cited in: Ireland, Stanley (2008). "Chapter 15: Government, Commerce and Society". Roman Britain: A Sourcebook. Routledge Sourcebooks for the Ancient World (arg. 3rd). Taylor & Francis. t. 216, §507. ISBN 9780415471770. OCLC 223811588.
- ↑ Hancock, The Heritage of the Dog, 1990.