Corhelgi
Helgi bach sy'n tarddu o Loegr yw'r Corhelgi,[1] y Corfytheiad (lluosog: Corfythéid neu Corfytheiaid),[1] y Beglgi[1][2] neu'r Fegl (lluosog: Begls).[3] Mae'n gi bywiog ac annwyl sy'n dda wrth ddilyn trywydd drwy synhwyro i hela cwningod ac ysgyfarnogod.[2][4]
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | hunting dog, Hound |
Màs | 9 cilogram |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Enw brodorol | Beagle |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n edrych yn debyg i gi cadno bach gyda llygaid mawr brown, clustiau llipa, a chôt fer o liw du, melyn a gwyn. Cydnabyddir dau faint o'r brîd hwn: corhelgwn sy'n sefyll 33 cm (13 modfedd) neu'n fyrach ac yn pwyso tua 8 kg (18 o bwysau), a chorhelgwn o daldra 33 i 38 cm (13 i 15 modfedd) ac yn pwyso tua 14 kg (30 o bwysau).[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 113 [beagle].
- ↑ 2.0 2.1 beglgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Medi 2014.
- ↑ begl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Medi 2014.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) beagle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2014.