Cornelia Petty Jerman
Ffeminist Americanaidd oedd Cornelia Petty Jerman (1 Rhagfyr 1874 - 3 Chwefror 1946) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Roedd hefyd yn swyddog gyda Phlaid Ddemocrataidd yr Unol Daleithiau yng Ngogledd Carolina.
Cornelia Petty Jerman | |
---|---|
Ganwyd | 1 Rhagfyr 1874 Carthage |
Bu farw | 3 Chwefror 1946 |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Fe'i ganed yn Carthage, Gogledd Carolina ac fe'i claddwyd ym Mynwent Hanesyddol Oakwood.[1] Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Ferched Oxford, Ohio a Choleg Cerdd New England.
Dyddiau cynnar
golyguGanwyd Cornelia Petty ger Carthage, Gogledd Carolina. Ei rhieni oedd William Carey Petty ac Emma Virginia Thagard Petty. Roedd ei thad yn weithiwr rheilffordd. Enillodd radd o Goleg Merched Rhydychen yng Ngogledd Carolina (dosbarth 1892), a dilynwyd hyn gydag astudiaethau pellach mewn llais yn y New England Conservatory of Music yn Boston.[2]
Etholfraint
golyguDaeth Cornelia Petty Jerman yn llywydd Clwb Merched Raleigh (1909-1911), a goruchwyliodd adeiladu'r clwb, ddwywaith. Gwasanaethodd hefyd fel llywydd Ffederasiwn Clybiau Merched Gogledd Carolina. Roedd hi'n un o drefnwyr Cynghrair Etholfraint Cyfartal Raleigh (Raleigh Equal Suffrage League). Ym 1919, daeth yn is-lywydd Cynghrair Etholfraint Cyfartal Gogledd Carolina. Ar ôl ennill y bleidlais i fenywod, parhaodd yn weithgar mewn gwleidyddiaeth drwy drefnu ac arwain Cynghrair Pleidleiswyr Benywaidd Raleigh.[2]
Daliodd Jerman swydd ffederal yng Ngogledd Carolina o dan yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt, fel casglwr cynorthwyol Refeniw Mewnol. Roedd hi hefyd ar fwrdd cyfarwyddwyr dau fanc, a Chlwb Democrataidd Cenedlaethol y Merched.
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: "Cornelia Petty Jerman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 2.0 2.1 Donald R. Lennon, "Cornelia Petty Jerman" in William S. Powell, ed., North Carolina Dictionary of Biography (University of North Carolina Press 1988).