Franklin D. Roosevelt

32ain arlywydd Unol Daleithiau America

32ain Arlywydd yr Unol Daleithiau oedd Franklin Delano Roosevelt neu FDR (30 Ionawr 188212 Ebrill 1945). Etholwyd i bedair tymor yn y swydd, rhwng 1933 a 1945: ef yw'r unig arlywydd i weinyddu mwy na dau dymor. Roedd yn berson canolog yn yr 20g yn ystod adeg o argyfwng economaidd byd-eang a Rhyfel Byd. Er iddo fod yn gyfrifol am arwain yr Undol Daleithiau yn ystod y Rhyfel, bu farw cyn i'r Rhyfel orffen a methodd a weld gwaddol ei fuddugoliaeth yng Nghynhadledd Potsdam a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 1945, na chwaith buddugoliaeth terfynol y Cynghreiriaid dros luoedd Siapan.

Franklin D. Roosevelt
GanwydFranklin Delano Roosevelt Edit this on Wikidata
30 Ionawr 1882 Edit this on Wikidata
Hyde Park Edit this on Wikidata
Bu farw12 Ebrill 1945 Edit this on Wikidata
o gwaedlif ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
Warm Springs, Little White House Edit this on Wikidata
Man preswylDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Havard
  • Ysgol y Gyfraith Columbia
  • Groton School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd, gwladweinydd, golffiwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd yr Unol Daleithiau, member of the State Senate of New York, Governor of New York, Assistant Secretary of the Navy, Governor-General of the Philippines, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Taldra189 centimetr, 188 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadJames Roosevelt Edit this on Wikidata
MamSara Roosevelt Edit this on Wikidata
PriodEleanor Roosevelt Edit this on Wikidata
PlantElliott Roosevelt, Franklin Delano Roosevelt Jr., John Aspinwall Roosevelt, Anna Roosevelt Halsted, James Roosevelt, Franklin Delano Roosevelt Edit this on Wikidata
PerthnasauTheodore Roosevelt Edit this on Wikidata
LlinachRoosevelt family Edit this on Wikidata
Gwobr/auPerson y Flwyddyn Time, Person y Flwyddyn Time, Person y Flwyddyn Time, Marchod Uwch Groes Urdd Milwrol Wiliam, Medal Albert, Médaille militaire, Grand Cross of the Order of the Legion of Honour (Philippines), Urdd Milwrol William, Philippine Legion of Honor, American Philatelic Society Hall of Fame Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod
Franklin D. Roosevelt

Cyfnod yn y swydd
4 Mawrth 1933 – 12 Ebrill 1945
Is-Arlywydd(ion)   John N. Garner (1933–1941)
Henry A. Wallace (1941–1945)
Harry S. Truman (1945)
Rhagflaenydd Herbert Hoover
Olynydd Harry S. Truman

Cyfnod yn y swydd
1 Ionawr 1929 – 31 Rhagfyr 1932
Rhagflaenydd Alfred E. Smith
Olynydd Herbert H. Lehman

Geni

Salwch parlys

golygu

Yn mis Awst 1921, tra roedd y teulu Roosevelt ar wyliau yn Campobello Island, New Brunswick, cafodd Roosevelt salwch. Credwyd ar y pryd mai polio oedd hi, ac arweiniodd at barlysu Roosevelt yn barhaol o'r wast i lawr. Am weddill ei fywyd, gwrthododd Roosevelt gredu fod yn barlys yn barhaol ac arbrofodd gyda amrywiaeth eang o therapïau gan gynnwys therapi dŵr, ac, ym 1926, prynodd gyrchfan yn Warm Springs, Georgia, lle sefydlodd ganolfan therapi dŵr ar gyfer cleifion polio, ac mae'n gweithredu dan yr enw Roosevelt Warm Springs Institute for Rehabilitation hyd heddiw. Ar ôl dod yn arlywydd, helpodd i sefydlu'r National Foundation for Infantile Paralysis (adnabyddir dan yr enw March of Dimes erbyn hyn). Ei arweiniad wrth sefydlu'r gymdeithas hon yw'r rheswm y ceir ei lun ar y darn pres, y dime.

Ar y pryd, roedd llai o archwilio ar fywydau preifat unigolion cyhoeddus nag y sydd heddiw, ac roedd Roosevelt yn gallu argyhoeddi i'r cyhoedd ei fod yn gwella. Credodd Roosevelt fod hyn yn angenrheidiol os oedd am sefyll mewn etholiad. Gan ffitio bresys haearn i'w goesau a'i gluniau, dysgodd ei hun sut i gerdded pellter byr, gan droi ei dorso tra'n cynnal ei hun gyda ffon. Defnyddiodd gadair olwyn yn breifat, ond roedd yn ofalus i beidio byth a gael ei weld ynddi yn gyhoeddus, ymddangosodd yn sefyll gan amlaf, ond wedi ei gynnal ar un ochr gan gynorthwywr neu un o'i feibion.

Yn 2003, canfu astudiaeth adolygiad-cyfoedion ei fod yn fwy tebygol mai Syndrom Guillain-Barré oedd salwch parlys Roosevelt ac nid poliomyelitis.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. What was the cause of Franklin Delano Roosevelt's paralytic illness? Archifwyd 2008-03-07 yn y Peiriant Wayback Goldman, AS et al, J Med Biogr. 11: 232–240 (2003)
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.