Cors Crymlyn

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru

Gwarchodfa Natur Genedlaethol gerllaw dinas Abertawe yw Cors Crymlyn (cyfeirir ati yn Saesneg fel Crymlyn Bog). Hi yw'r esiampl fwyaf yng Nghymru o gors alcalin ar yr iseldir neu ffen.

Cors Crymlyn
Mathcors, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd280.98 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6364°N 3.8883°W, 51.636356°N 3.88818°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Saif y gors i'r dwyrain o ganol Abertawe, mewn ardal oedd unwaith yn aber Afon Clydach ac Afon Nedd. Ar un adeg roedd purfa olew ar ran o'r safle, ac mae hen gamlas Glan-y-wern yn arwain trwy'r warchodfa. Heblaw'r gors ei hun, ceir amrywiaeth o gynefinoedd a rhai planhigion sy'n brin ym Mhrydain, yn cynnwys Plu'r Gweunydd Eiddil, Rhedynen Wyfrdwy, Gwlithlys, Llymfrwynen a Swigenddail Lleiaf. Ceir amrywiaeth o adar yno hefyd, yn cynnwys Rhegen dŵr ac Aderyn y bwn.

Cors Crymlyn (yn y pellter)

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu