Tir gwlyb parhaol yw cors. Yn aml mae llyn yn troi'n gors yn nhreigl amser, ac yn nes ymlaen mae'r gors yn troi'n dir sych.

Llystyfiant nodweddiadol o gors, yn Sumava, Gweriniaeth Tsiec
Adfywio Cyforgorsydd Cymru

Gellir cael nifer o wahanol fathau, yn dibynnu ar natur y graig a'r pridd yn yr ardal. Lle mae'n asidig, cysylltir y gors fel rheol a mawn; dyma'r math mwyaf cyffredin ar gors yng Nghymru.

Gellir rhannu'r corsydd hyn yn gorsydd yr iseldir a chorsydd yr ucheldir. Mae corsydd yr iseldir yn fawnogydd sydd wedi datblygu mewn mannau lle mae dŵr yn casglu oherwydd traeniad gwael. Ffurfir mawn, gan fod diffyg ocsigen yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Bydd ymgasgliad y mawn yn codi arwyneb y gors uwchben y tir o'i chwmpas i ffurfio llun cromen. Defnyddir y term cyforgors am y rhain; esiamplau yw Cors Fochno a Chors Caron.

Gall corsydd yr ucheldir ffurfio dros ardaloedd eang lle mae llawer o law yn disgyn. Ceir enghreifftiau o'r math yma o gors ar y Migneint.

Gall corsydd fod o bwysigrwydd mawr ar gyfer bywyd gwyllt, ac mae llawer ohonynt ledled y byd wedi eu dynodi fel gwarchodfeydd.

Mathau o gors golygu

Dôl golygu

Gwlypdir cymharol sych yw dôl, a geir ger afon[1]. Mae'r gair yn perthyn i'r gair dolen, gan gyfeirio at droadau mewn afonydd.

Cors golygu

Yn wreiddiol, cyfeiria'r gair yn benodol at le lle y tyf cyrs, tebyg i'r fen Saesneg.

Gwern golygu

Cyfeiria gwern i'r goeden â'r un enw.

Mawnog golygu

Cors lle'r oedd mawn yn cael ei dorri yw mawnog neu geulan.

Gwaun golygu

Gall y gair gwaun gyfeirio at wastatir uchel brwynog, neu at tir isel gwlyb.

Siglen golygu

Cors eithriadol wleb yw siglen neu donnen (Almaeneg: Schwingmoor).

Dosraniad Llystyfiant Cenedlaethol (National Vegetation Classification (NVC) golygu

Ar ôl datblygu'r Dosraniad Llystyfiant Cenedlaeth (NVC) yn y 1990au i ddosbarthu cynefinoedd Prydain yn ffurfiol yn ôl eu llustyfiant daeth angen dybryd am dermau Cymraeg sydd yn cyfateb i'r termau Saesneg. Ar ôl gwyntyllu'r eirfa gyfoethog iawn yn y ddwy iaith, profodd yr orchwyl yn amhosibl am ddau reswm:

  1. ystyron y eirfa yn gorgyffwrdd yn y Gymraeg a'r Saesneg, a
  2. dim cyfatebiaeth gadarn rhwng y termau yn y ddwy iaith.

Doedd dim byd amdani ond ceisio safoni ystyr yn y Gymraeg er mwyn bod mor synhwyrol a phosibl a thriw i'r hyn a ddisgrifir. Dyma ymdrech i gymhwyso termau Cymraeg ddosraniad gwyddonol yr NVC yng nghyd destun y dudalen Gwyrddling ar cymunedau y mae'r planhigyn hwnnw yn rhan ohonynt (noder nad yw'r termau Saesneg chwaith yn foddhaol wrth eu cyfleu, a gwahoddir ieithmon o fotanegwyr i gymryd y gwaith yn ei flaen a chynnig gwelliannau bychain neu radical):

Tansley (1965)[2] oedd un o'r rhai cyntaf i ddisgrifio'r cymunedau llysieuol mae'r gwyrddling yn ohonynt. Yn fwy diweddar cyhoeddwyd y Dosraniad Llysieuol Cenedlaethol (NVC)[3] trwy samplo ffurfiol a manwl i geisio adnabod yr uniadau ystadegol y mae pob rhywogaeth yn perthyn iddynt. Bu Skene et al (2000)[4] yn un o'r rhai a ddefnyddiodd y Dosbarthiad i ddisgrifio cymunedau rhywogaethau penodol megis y gwyrddling. Fe adnabu 16 o wahanol gymunedau breision y mae'r gwyrddling yn rhan ohonynt ym Mhrydain. Yn y crynodeb canlynol mae'r disgrifiadau mewn bachau petrual yn cyfeirio'n benododol at natur presenoldeb y gwyrddling yn y gymuned dan sylw ac yn perthyn i Skene et al (2000) tra bod y prif ddisgrifiad wedi eu codi o'r Dosraniad Llysieuol Cenedlaethol (NVC: cyfieithiad Cymdeithas Edward Llwyd/Porth Termau Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor).

Cymunedau Siglen (S = swamp)
  • 1. S24 Cors galchog ffenigl-y-moch llaethog

Cors galchog llystyfiant tal Phragmites australis-Peucedanum palustre
[S24 Menyanthes trifoliata (Ffeuen y gors) is-gymuned o fignedd a gwelyau hesg Cladium mariscus (Corsfrwynen lem)]

  • 2. S2 Gwely corsfrwyn llym

Siglen Cladium mariscus
[S2 Phragmites australis±Peucedanum palustre tall herb fen]

  • 3. S25 Cors galchog byddon chwerw

Cors galchog llystyfiant tal Phragmites australis-Eupatorium cannabinum
[S25 Cladium mariscus isgymuned Phragmites australis - Eupatorium cannabinum ffen llysiau tal]

Cymunedau Mignedd (M = mire)
  • 4. M1 Pwll-mignen migwyn corn buwch

Cymuned pwll mignen Sphagnum auriculatum

[M1 Sphagnum auriculatum cymuned cors-byllau]

  • 5. M2 Pwll mignen migwyn pluog

Cymuned pwll mignen Sphagnum cuspidatum/recurvum

[M2 Sphagnum cuspidatum/recurvum cymuned cors-byllau, yn gyfyngedig i is-gymuned Rhynchospora alba]

  • 6. M5 Cors galchog dlawd migwyn ysbigog

Cors Carex rostrata-Sphagnum squarrosum

[M5 Carex rostrata-Sphagnum squarrosum cymuned cors, lle gwelir Carex lasiocarpa yn cynyddu fel mae'r gwyrddling yn cynyddu]

  • 7. M6 Cors galchog dlawd sêr-hesg/brwyn

Cors Carex echinata-Sphagnum recurvum

[M6 Carex echinata-Sphagnum recurvum/auriculatum cors (M6), mae M. gale yn gyffredin ynghyd â Erica tetralix]

  • 8. I'w gadarnhau

[M13 Schoenus nigricans-Juncus subnodulosus cors]

  • 9. M14 Rhostir gwlyb corsfrwyn duon

Cors Schoenus nigricans-Narthecium ossifragum

[M14 Ffurfia Myrica gale amdo llwynol isel mewn rhai clystyrau o Schoenus nigricans-Narthecium ossifragum]

  • 10. M15 Rhostir gwlyb clwbfrwyn mawn

Rhostir gwlyb Scirpus cespitosus-Erica tetralix

[M15 Scirpus cespitosus-Erica tetralix cymuned rhostir gwlyb]

  • 11. M16 Rhostir gwlyb iseldir

Rhostir gwlyb Erica tetralix-Sphagnum compactum

[M16 Myrica gale yn tyfu weithiau yng nghymuned yrErica tetralix-Sphagnum compactum rhostir gwlyb, gyda helaethrwydd yn is-gymuned Succisa pratensis-Carex panicea]

  • 12. M17 Gorgors clwbfrwyn mawn

Gorgors Scirpus cespitosus-Eriophorum vaginatum

[M17 Cymunedau gorgors Scirpus cespitosus-Eriophorum vaginatum (M17), mae'r gwyrddling yn gyfyngedig i rathau mawr i'r is-gymuned Drosera rotundifolia-Sphagnum spp.]

  • 13. M21 Cors dyffryn llafn y bladur

Cors dyffryn Narthecium ossifragum-Sphagnum papillosum

[Yng nghymuned cors dyffryn Narthecium ossifragum-Sphagnum papillosum (M21), mae'r gwyrddling yn gyfyngedig, ond pan yn bresennol gall fod yn helaeth ac yn ymledu i gymunedau eraill cyfagos, yn enwedig glaswelltiroedd Junco-Molinion.]

  • 14. M25 Gweirdir glaswellt y gweunydd

Cors Molinia caerulea-Potentilla erecta

[Yn y gors Molinia caerulea-Potentilla erecta mire (M25), mae'r gwyrddling yn anghyffredin yn yr is-gymuned Angelica sylvestris, ond yn cyrraedd amlygrwydd arbennig yn yr is-gymuned Anthoxanthum odoratum.]

Cymunedau coedwigol (W = woodland)
  • 15. W2 Gwern galchog helyg a bedw

Gwern galchog Salix cinerea-Betula pubescens-Phragmites australis

[Mae'r gwyrddling a Molinia caerulea yn amrywio yn eu presenoldeb yn y gymuned goedwigol Salix cinerea-Betula pubescens-Phragmites australis woodland community (W2) (Rodwell 1991a), hynny yn fwy helaeth yn yr is-gymuned Sphagnum spp. nag yn y is-gymuned yr Alnus-Filipendula]

  • 16. W4 Coetir bedw llwyd

Gwern Betula pubescens-Molinia caerulea

[Mae'r gwyrddling a Salix repens yn ffurfio is-haen glytiog o dan yr amdo. Yng nghymuned goedwigol Betula pubescens-Molinia caerulea (W4), mae'r gwyrddling yn digwydd weithiau fel gorchudd tew o lwyni heglog.]

Crynodeb byr yw rhain o'r cymunedau ym Mhrydain. Am fanylion llawn a gwybodaeth am gymunedau ehangach a gwahanol yn Ewrop tynnir sylw'r darllennydd i'r ffynonellau priodol.

Mytholeg a defodau golygu

Roedd corsydd, fel afonydd, llynnoedd a ffynhonnau yn bwysig iawn yn nychymyg ac yn nefodau'r hen Geltaidd. Byddai eu hoffeiriaid yn aberthu i'r lleoedd dyfrllyd hyn, a ystyrid yn byrth i Annwfn (y byd arall) er mwyn sicrhau atgyfodiad yr haf yn flynyddol yn y frwydr ddiderfyn rhwng pwerau'r tywyllwch a'r goleuni.

Cawn adlais o hynny yn chwedl Lleu yn y Mabinogion. Ymgorfforiad o dduw'r haul oedd Lleu ac yn ôl y stori cafodd yr arwr ei ladd pan gyflawnwyd tri amod arbennig yn y rhyd yn Afon Cynfal. Yna, mae'n troi'n eryr (roedd aderyn yn symbol o daith yr enaid i'r byd nesa) cyn cael ei atgyfodi yn ddiweddarach, ar ffurf dyn unwaith eto, gan y dewin Gwydion. Un o'r tri amod oedd bod raid i Lleu sefyll mewn lle nad oedd yn dir nac yn ddŵr. Tybed be arall allai hynny fod heblaw cors ynde?

Mae'n debyg bod cors neu donnen (y fignen ddyfrllyd honno sy'n siglo dan draed), fel heddiw, yn cael ei hystyried yn lle peryglus a thwyllodrus – yn ymddangos yn gadarn ond yn gallu traflyncu'r anghyfarwydd. Hawdd credu y byddai'r hen bobl yn ystyried cors yn drigfan i bwerau mileinig a drygnaws oedd angen eu tawelu ag aberth. Hyd yn oed yn nes i'n dyddiau ni credid bod pwerau'r fall yn trigo mewn corsydd. Onid cannwyll gorff oedd un o'r enwau ar y fflamau rhyfedd, achosid gan y nwy methan, a welid ar fawnogydd weithiau? Yn Nyfed, yr enw ar y dwymyn dridiau (teiffws neu "ague") oedd yn plagio pobl oedd yn byw gerllaw corsydd oedd Yr Hen Wrach. Ac, wrth gwrs, croesi Cors Anobaith oedd un o'r profion wynebai Cristion yn "Nhaith y Pererin", John Bunyan.

Canfyddwyd rhai o drysorau amlycaf y gwareiddiad Celtaidd mewn corsydd, e.e. sawl crochan efydd, offer metal addurniedig, a hyd yn oed wagenni seremonïol mewn mawnogydd yn ynysoedd Prydain a rhannau o'r Cyfandir, e.e., yn Jutland yn Nenmarc y cafwyd crochan arian enwog Gundestrup.

Mae'r ambience" tywyll yma yn parhau mewn ymadroddion heddiw:

  • Gwern Uffern!
Gwern, (alder, alder marsh) turns up in a swear word: Gwern Uffern! (The marsh of hell) which gives a peculiarly Celtic feel for a place of eternal damnation, damp and cold, in contrast with the hot burning fires of hell of Middle Eastern inspiration![5]

Ymhelaethodd Brynach mewn ebost i Llên Natur: "mae'n cyfateb i 'Bloody hell!' yn Saesneg, sef yn mynegi arswyd, ond mae'n ddarluniol iawn. Mae ar lafar gan yr hen do yma ym Mrycheiniog, ac rwyf wedi ei glywed hefyd gan fenyw o Faesteg, sydd heb unrhyw gysylltiadau a'r parthau 'ma". Ychwanegodd Twm Elias: "Mae’n atgoffa i o’r disgrifiad o un o dreialon / temptasiynnau Cristion [Taith y Pererin], pan gafodd ei ddal yng Nghors Anobaith" (uchod)[6]

Ond yn fwy trawiadol fyth yw'r dystiolaeth o aberth dynol. Daethpwyd ar draws dros 200 o gyrff hynafol mewn mawnogydd yn ystod y tair canrif ddiwethaf ym Mhrydain ac Iwerddon. Trueni ynde, mai dim ond yn ddiweddar y dysgwyd sut i gadw'r cyrff hyn rhag pydru'n gyflym unwaith y daethant i gysylltiad ag aer. Cafwyd nifer dda ohonynt yn Nenmarc hefyd – darllenwch lyfr yr Athro PV Glob “The Bog People” (1969) am fwy o'u hanes. Yna, yn 1984, darganfyddwyd corff Dyn Lindow (neu 'Pete Marsh'!) yn Lindow Moss (Lindow yn tarddu o Llyn Du) ger Manceinion. Roedd llawer o'r cyrff hyn, am eu bod wedi eu piclo mewn mawn, mewn cyflwr mor 'berffaith' pan y'u darganfyddwyd nes galwyd yr heddlu'n syth cyn i'r rheiny, yn eu tro, drosglwyddo'r mater i'r archeolegwyr!

Roedd yn amlwg bod llawer o'r cyrff yma, oedd yn dyddio o tua 300–500 CC, wedi eu haberthu'n seremonïol. Roeddent (bron) yn noeth – Dyn Tollund, yn Nenmarc, yn gwisgo dim ond cap a gwregys lledr a Dyn Lindow yn gwisgo breichled o flew llwynog, a'i gorff wedi ei baentio'n wyrdd. Mae hyn yn ein hatgoffa o'r ail amod oedd ei angen i ladd Lleu – ddim wedi ei wisgo a ddim yn noeth. Tybed a oedd Lleu wedi ei baentio fel Dyn Lindow?

Ond y peth mwyaf trawiadol am y cyrff corslyd hyn oedd y modd y cawsant eu lladd. Roedd Dyn Lindow, er enghraifft, wedi ei ladd drwy ei daro ar ei ben, ei grogi â chortyn, a'i wddw wedi ei dorri â chyllell cyn iddo gael ei osod â'i wyneb i lawr yn y gors. Mae hyn yn cyfateb yn agos iawn i ddisgrifiadau'r Rhufeiniaid o sut y byddai'r Derwyddon yn dienyddio eu haberth – sef drwy'r farwolaeth driphlyg. Bellach rydym wedi colli'r wybodaeth am y rheswm bod rhaid aberthu yn y modd hwn, drwy ladd mewn tair ffordd. Tri dull i fodloni'r tri prif dduw efallai?

Os chwiliwn yn ofalus fe gawn sawl adlais o'r farwolaeth driphlyg, neu farwolaeth ar ôl cyflawni tri amod, yn britho'r hen chwedlau Cymreig a Gwyddelig. Er enghraifft, yn y straeon am Cú Chulain, arwr Ulster, mae'n rhaid i Cú Chulain brofi ei ddewrder drwy adael i Cú Roi gogio ei daro dair gwaith yn ei wddw â bwyell ac mae'n rhaid i dri amod gael eu cyflawni cyn y gall Gronw Pebr ladd Lleu. Y trydydd amod, gyda llaw, at y ddau grybwyllwyd eisoes, oedd na ddylsai fod mewn adeilad nac yn yr awyr agored.

Yn yr Alban ceir stori Llallogan (y ‘Myrddin’ Albanaidd) gafodd ei daro â charreg nes iddo ddisgyn i'r afon – lle cafodd ei drywannu gan stanc adawyd yn y dŵr gan bysgotwr, a boddi! A beth am y stori o Eryri am y llanc ymladdodd yr anghenfil triphen ar lan Llyn Gwynant – ond a gafodd ei frathu gan yr anghenfil cyn disgyn i'r dŵr, taro ei ben ar garreg a boddi!

Mewn amgylchiadau eraill dim ond y pen a osodwyd yn y gors ac mae hynny, o bosib, yn dystiolaeth o ddefodau oedd yn gysylltiedig â 'Chwlt y Pen' oedd yn un o gwltau pwysica'r hen Geltiaid. Credai dilynwyr y cwlt bod y pen yn drigfan i enaid ei berchenog gwreiddiol ac y gallasai siarad a rhannu ei ddoethineb â'r byw – fel y gwnâi pen Bendigeidfran ar ei ffordd yn ôl o Iwerddon. Credid y byddai'r offeiriad Celtaidd hyd yn oed yn codi pen o'r fawnog yn achlysurol i ymgynghori ag ef a'r duwiau. Ydi hi'n rhyfedd d'wch bod pobl gyffredin, ar hyd y canrifoedd, yn ofni corsydd ac yn eu hystyried yn drigfannau i bwerau'r fall!?

Corsydd yng Nghymru golygu

Y corsydd mwyaf adnabyddus yw:

Ffynonellau golygu

  1. "Tro ar fyd" (colofn Duncan Brown), Y Cymro, 5 Ionawr 2007, t.9
  2. Tansley, A. G (1965) The British Islands and their Vegetation CUP
  3. https://en.wikipedia.org/wiki/British_National_Vegetation_Classification
  4. Journal of Ecology Volume 88, Issue 6, Version of Record online: 24 DEC 2001
  5. Brynach Parri ar flog Brecknock Place-Name Society
  6. Bwletin Llên Natur rhifyn 43
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).



Chwiliwch am cors
yn Wiciadur.