Craig y Gaer
Caer rhestredig Gradd II* gar ynys ger Aberdaugleddau
Caer ar ynys fach oddi ar arfordir Sir Benfro ger Aberdaugleddau yw Craig y Gaer (Saesneg:Stack Rock Fort).
Math | caer |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Milford Haven Palmerston Forts, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Lleoliad | Herbrandston |
Sir | Herbrandston |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 3.6 metr |
Gerllaw | Arfordir Aberdaugleddau |
Cyfesurynnau | 51.7025°N 5.09211°W, 51.702509°N 5.092127°W |
Cod OS | SM864049 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Deunydd | calchfaen, gwenithfaen, concrit |
Dynodwr Cadw | PE334 |
Hanes
golyguAdeiladwyd caer ar yr ynys rhwng 1850 a 1852 i amddiffyn rhag ymosodiad milwrol o'r môr.[1]
Daw'r syniad gwreiddiol am gaer ar y graig gan Thomas Cromwell ym 1539 ond ni chyflawnwyd unrhyw gynllun tan ganol y 1800au.[1]
Ystyriwyd bod angen amddiffynfeydd pellach yn Noc Penfro rhag ofn ymosodiad gan Ffrainc dan Napoleon III.[1]
Yn ystod Rhyfel Byd I dim ond nifer fach o filwyr oedd yn ei staffio ac yn y pen draw cafodd ei ddiarfogi ym 1929.[1]
Mae'r graig yn perthyn i Anoniiem, cwmni budd cymunedol, sy'n bwriadu ei chadw fel "adfail byw".[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Stack Rock Fort: Victorian island reclaimed by nature". BBC News (yn Saesneg). 2023-07-28. Cyrchwyd 2024-05-29.
- ↑ "Stack Rock Fort: Victorian island reclaimed by nature". BBC Wales (yn Saesneg). 29 Gorffennaf 2023. Cyrchwyd 9 Mehefin 2024.