Thomas Cromwell

barnwr, cyfreithiwr, gwleidydd (1485-1540)

Roedd Thomas Cromwell, Iarll 1af Essex (c.148528 Gorffennaf 1540) yn gyfreithiwr a gwladweinydd o Loegr a fu’n gwasanaethu Harri VIII fel ei Brif Weinidog rhwng 1532 a 1540. Yn 1540 dienyddiwyd ef ar orchymyn y Brenin.

Thomas Cromwell
Ganwydc. 1485 Edit this on Wikidata
Putney Edit this on Wikidata
Bu farw28 Gorffennaf 1540 Edit this on Wikidata
o pendoriad Edit this on Wikidata
Tower Hill Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, barnwr, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddMember of the 1523 Parliament, Lord Great Chamberlain, Arglwydd y Sêl Gyfrin, Meistr y Rolau, Canghellor y Trysorlys, Member of the 1529-36 Parliament, Member of the 1536 Parliament Edit this on Wikidata
TadWalter Cromwell Edit this on Wikidata
MamKatherine Glossop Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Wyckes Edit this on Wikidata
PlantGregory Cromwell, Anne Cromwell, Grace Cromwell Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata

Roedd Cromwell yn un o gefnogwyr mwyaf dylanwadol a phwerus Diwygiad Lloegr. Roedd yn unigolyn hollbwysig wrth gynllunio sut i ddiddymu priodas y Brenin Harri VIII a Catrin o Aragon fel bod Harri yn medru priodi Anne Boleyn yn gyfreithlon. Methodd Harri gael sêl bendith y Pab i ysgaru Catrin yn 1534, felly cefnogodd y Senedd hawl y Brenin i fod yn Ben Goruchaf Eglwys Lloegr, a fyddai’n rhoi’r awdurdod iddo ddiddymu ei briodas ei hun. Byddai felly yn gallu ysgaru Catrin.

Cromwell hefyd oedd yn gyfrifol am drefnu Diddymu’r Mynachlogydd, gan gynnwys llawer yng Nghymru.[1] O ganlyniad i hyn, cafodd llawer o lyfrau oedd ym mherchnogaeth y mynachlogydd eu dinistrio, sef llyfrau a ddisgrifiwyd fel rhai ‘pabaidd’ ac ‘ofergoelus’. Disgrifiwyd cau’r mynachlogydd fel y gyflafan waethaf erioed yn hanes llenyddol Lloegr. Oherwydd hynny, ni fu casgliad llenyddol ym Mhrifysgol Rhydychen nes rhoddodd Syr Thomas Bodley ei gasgliad i'r Brifysgol yn 1602.[2]

Yn ystod ei esgyniad i bŵer, roedd Cromwell wedi denu llawer o elyniaeth ac felly wedi dod i wrthdaro â llawer o elynion - yn eu plith, Anne Boleyn.[3] Roedd Cromwell yn ffigwr allweddol ym mhenderfyniad y Brenin Harri i orchymyn dienyddiad Anne. Serch hynny, collodd ffafr y Brenin Harri, wedi iddo drefnu’r briodas aflwyddiannus rhwng y Brenin a’r dywysoges o’r Almaen, Anne o Cleves, sef pedwaredd priodas Harri. Roedd Cromwell wedi gobeithio y byddai’r briodas yn rhoi egni newydd i’r Diwygiad yn Lloegr, ond daeth y briodas i ben ar ôl chwe mis. Dienyddiwyd Cromwell ar Tower Hill, ar 28 Gorffennaf 1540 ar sail teyrnfradwriaeth a heresi. Yn ddiweddarach, dywedodd Harri VIII ei fod yn difaru colli ei Brif Weinidog.[4]

Mae rhai haneswyr yn dadlau bod Thomas Cromwell wedi bod yn ddylanwad pwysig ar yrfaoedd gwleidyddion a gweinyddwyr pwysicaf teyrnasiad Elisabeth I - er enghraifft, William Cecil a Nicholas Bacon.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Y Mynachlogydd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-07.
  2. Lawson, John, 1913- (2007). Mediaeval education and the Reformation. London: Routledge. ISBN 978-0-203-70710-4. OCLC 846968343.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. Herman, Peter C., 1958- (2011). A short history of early modern England : subjects, rulers and rebels. Chichester, West Sussex: Wiley-Blackwell. ISBN 978-1-4443-9497-9. OCLC 769189130.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  4. Hutchinson, Robert, 1948- (2008). Thomas Cromwell : the rise and fall of Henry VIII's most notorious minister. London: Phoenix. ISBN 978-0-7538-2361-3. OCLC 181069188.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  5. MacCulloch, Diarmaid,. Thomas Cromwell : a life. [London]. tt. 500–501. ISBN 978-1-84614-429-5. OCLC 1055684132.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)