Credo'r Apostolion

Cyffes ffydd Gristnogol sy'n dyddio'n ôl i oes yr Eglwys Fore yw Credo'r Apostolion neu yn hynafaidd y Symbolen neu'r Symblen[1] (Lladin: Symbolum Apostolorum neu Symbolum Apostolicum). Mae ganddi dri pharagraff i symboleiddio'r Drindod, yn debyg i'r mwyafrif o gredoau Cristnogol eraill. Fe'i defnyddir gan yr Eglwys Babyddol, yr Eglwys Anglicanaidd, a nifer o eglwysi Protestannaidd. Ni chaiff ei cydnabod yn swyddogol gan yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, sydd fel rheol yn defnyddio Credo Nicea. Mae ambell eglwys Brotestannaidd, er enghraifft y Methodistiaid Unedig, yn eithrio'r cymal "a ddisgynnodd i uffern".[2]

Credo'r Apostolion mewn llawysgrif goliwiedig o'r 14g.

Yn draddodiadol, priodolir y Credo i'r Deuddeg Apostol a dywed i bob un o'r Apostolion ysgrifennu un o'r cymalau. Ceir credoau eraill yng ngweithiau Tadau'r Eglwys, megis Hippolytus, Irenaeus, a Tertullian. Gwyddys bellach taw datblygiadau ar yr ymholiadau a'r atebion rhwng yr esgob a'r catecwmen (disgybl bedydd) yw cyffesion o'r fath. Mae testun Credo'r Apostolion yn debyg i'r cyffes fedydd a ddefnyddid gan Eglwys Rhufain yn y 3g a'r 4g. Cymerai ei ffurf bresennol yn ne orllewin Ffrainc yn niwedd y 6g neu ddechrau'r 7g, a gofnodai gan Sant Pirminius yn nechrau'r 8g. Cafodd ei gydnabod yn gyffes ffydd swyddogol yr Eglwys Gatholig Rufeinig erbyn oes y Pab Innocentius III ar gychwyn y 13g.

Testun Lladin[2] Testun Cymraeg[3]
Credo in Deum Patrem omnipotentem; Creatorem caeli et terrae.
Et in Jesum Christum, Filium ejus unicum, Dominum nostrum; qui conceptus est de Spiritu Sancto, natus ex Maria virgine; passus sub Pontio Pilato, crucifixus, mortuus, et sepultus; descendit ad inferna; tertia die resurrexit a mortuis; ascendit ad caelos; sedet ad dexteram Dei Patris omnipotentis; inde venturus (est) judicare vivos et mortuos.
Credo in Spiritum Sanctum; sanctam ecclesiam catholicam; sanctorum communionem; remissionem peccatorum; carnis resurrectionem; vitam aeternam. Amen.
Credaf yn Nuw Dad Hollgyfoethog, Creawdwr nef a daear:
Ac yn Iesu Grist, ei un Mab ef, ein Harglwydd ni; yr hwn a gaed trwy’r Ysbryd Glân, a aned o Fair Forwyn, a ddioddefodd dan Pontius Pilatus, a groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd; a ddisgynnodd i uffern; y trydydd dydd y cyfododd o feirw; a esgynnodd i’r nefoedd. Ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Duw Dad Hollgyfoethog; oddi yno y daw i farnu’r byw a’r meirw.
Credaf yn yr Ysbryd Glân; yr Eglwys Lân Gatholig; Cymun y Saint; maddeuant pechodau; atgyfodiad y cnawd, a’r bywyd tragwyddol. Amen.

Cyfeiriadau golygu

  1.  symbolen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Medi 2018.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Apostles' Creed. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Medi 2018.
  3. Geraint Lloyd, "Crist a Chredo'r Apostolion", Y Cylchgrawn (Mudiad Efengylaidd Cymru, 2017). Adalwyd ar 16 Medi 2018.