Tertullianus
Yr awdur Cristnogol cyntaf o bwys yn yr iaith Ladin oedd Tertullian (155 – 240). Fe'i ystyrir yn un o Dadau'r Eglwys ac yn sefydlydd diwinyddiaeth Orllewinol.
Tertullianus | |
---|---|
Ganwyd | c. 160 Carthag Rufeinig |
Bu farw | c. 240 Carthag Rufeinig |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Addysg | Doethuriaeth Nauk mewn Athroniaeth |
Galwedigaeth | llenor, diwinydd, athronydd |
Adnabyddus am | Contre Marcion |
Ganwyd Quintus Septimus Florens Tertullianus yng Ngharthago, yn fab i ganwriad Rhufeinig ac o dras Ferberaidd. Arferai'r gyfraith yn Rhufain, ac yno fe drodd yn Gristion yn y 190au. Fe ymwelodd â Gwlad Groeg, ac o bosib Asia Leiaf. Dychwelodd i Garthago yn 197 ac yno fe briododd a daeth yn henuriad yn yr Eglwys Fore.
Tua 207, fe ddaeth Tertullian yn bennaeth ar y Montanyddion, enwad proffwydol ac asgetig. Cawsant eu condemnio'n hereticiaid gan yr awdurdodau eglwysig. Trodd Tertullian yn hynod o lym yn ei foeseg, ei ddisgyblaeth a'i feirniadaeth o Gristnogion uniongred. Mae'r heresi hon wedi diraddio safle Tertullian ymhlith Tadau'r Eglwys, er iddo gael dylanwad ar ddiwinyddion diweddarach megis Sant Cyprian. Derbynnir nifer o'i weithiau cynnar gan yr Eglwys Gatholig, yn enwedig ei ysgrifau diffyniadol.
Mae 31 o'i weithiau wedi goroesi, a'r enwocaf oll yw Apologeticus (tua 197), diffyniad brwd o'i ffydd yn erbyn cyhuddiadau'r paganiaid o anfoesoldeb, diffyg gwerth economaidd a chynllwyn gwleidyddol. Yn ei waith, dangosir gwybodaeth o lên baganaidd a Christnogol yn yr ieithoedd Groeg a Lladin. Nodai'i waith gan hoen ei ddadleuon, coegni, epigramau, a'i ddallbleidiaeth. Oherwydd Tertullian oedd y diwinydd cyntaf i ymdrin â Christnogaeth trwy gyfrwng Lladin, fe fathodd sawl gair megis trinitas. Cafodd natur gyfreithiol geirfa a dadleuon Tertullian ddylanwad syfrdanol ar lên ddiwinyddol Ewrop.