Cristion (cylchgrawn)
cylchgrawn Cristnogol Cymraeg
Cylchgrawn Cristnogol Cymraeg ydy Cristion. Fe'i cyhoeddir gan bwyllgor aml enwad o eglwysi Anghydffurfiol ac Anglicanaidd. Cyhoeddir y cylchgrawn bob deufis, ac mae'n cynnwys erthyglau ar destunau Cristnogol yng Nghymru, eitemau newyddion, adolygiadau o lyfrau, llythyron a chystadleuthau. Fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn 1983.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, cylchgrawn |
---|---|
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Rhagfyr 1983 |
Dechrau/Sefydlu | 1983 |
Lleoliad cyhoeddi | Abertawe |
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.