Cylchgronau Cymru Ar-lein

Mae Cylchgronau Cymru Ar-lein yn brosiect sy'n darparu mynediad di-dâl i ysgolheictod o Gymru i fyfyrwyr, athrawon ac ymchwilwyr.

Mae ôl-rifynnau hyd at 50 o deitlau ar gael, yn amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd. Mae rhifynnau cyflawn pob teitl wedi’u cynnwys; mae’r rhifyn diweddaraf y gellir ei gael yn dibynnu ar y cyhoeddwr, a bydd yn amrywio o deitl i deitl.

Ymgymerwyd â’r gwaith o gyflwyno’r cylchgronau ar y we gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth JISC a Llywodraeth Cymru, a chydweithrediad cyhoeddwyr ac awduron.

Teitlau Golygu

Dolenni allanol Golygu