Croes Rhyd-y-beddau

Beddfaen a godwyd i gofio am ŵr o'r enw Similini Tovisaci yw Croes Rhyd-y-beddau, sy'n sefyll ger Clocaenog, ger Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae'n bosibl ei bod yn garreg fedd Rhufeiniwr. Rhyd-y-beddau ydy enw'r ardal yma ger Clocaenog, Rhuthun. Ceir hefyd yr enw Carreg Clocaenog amdani.

Croes Rhyd-y-beddau
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Copi o'r garreg yn Amgueddfa Cymru

Mae’r garreg yn adnabyddus am fod yn un o’r enghreifftiau prin o gerrig gyda’r iaith Ogham arni yng Nghymru sydd heb gael ei chludo i Amgueddfa Cymru neu rywle arall.

Er bod cryn dadlau ynglŷn â’r hyn mae’r Ogham yn ei ddweud, mae’r ysgrifen Ladin dal yn weddol hawdd ei darllen. Does neb yn gwybod pwy oedd y Similini hwn ond dadleua Jackson mai naill ai ffurf enedigol enw Brydeineg neu Bicteg ydyw; “the linguistic origins of the name uncertain. It could be [....] British, from *Similinos.” Ymddengys hefyd y gair ‘TOVISACI.’ Yn ôl gwefan Coleg Prifysgol Llundain, hen fersiwn o’r gair ‘tywysog’ neu ‘taoiseach’ yn y Wyddeleg: “The word Tovisaci was first recognised as giving 'tywysog' or 'prince' in a letter by Lhuyd in 1693, publishhed as `The second word is the genitive of CC. *touissacos, "prince"; as it existed both in British and Irish (OI. toisech, W. tywysog)'.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y garreg hon ar wefan Coleg Prifysgol Llundain: https://www.ucl.ac.uk/archaeology/cisp/database/stone/clocg_1.html#i2 Hefyd, mae gwybodaeth ar wefan Megalithic Portal: https://m.megalithic.co.uk/article.php?sid=49523