Cromen geodesig
Mae cromen geodesig yn strwythur hemisfferig sy'n seiliedig ar bolyhedronau geodesig. Maent yn dosbarthu pwysau'r gromen dros y strwythur i gyd a gall wrthsefyll pwysau mawr.
Delwedd:Mtl. Biosphere in Sept. 2004.jpg, Spaceship Earth 2.jpg | |
Math | Cromen |
---|---|
Crëwr | Buckminster Fuller |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ychydig wedi'r Rhyfel Mawr y cynlluniwyd y gromen geodesig cyntaf a hynny gan Walther Bauersfeld,[1], prif beiriannydd Cwmni Carl Zeiss. Derbyniodd freinlen ('patent') ar gromen cymharol fach ac fe'i codwyd gan yr adeiladwyr Dykerhoff and Wydmann ar un o adeiladau Zeiss yn Jena, yr Almaen. Yna codwyd cromen tipyn mwy yng Ngorffennaf 1926.[2] 20 mlynedd yn ddiweddarach mabwysiadwyd y syniad yn ddiweddarach gan R. Buckminster Fuller yn yr Unol Daleithiau a fathodd y term "geodesig".[3] Er nad ef oedd dyfeisydd y gromen geodesig, ef sy'n cael y clod am hynny yn yr UDA.
Yn ychwanegol at y ffaith fod y gromen yn hynod o gryf, o'i gymharu a'i bwysau, gyda wynebau'r 'waliau' yn denau ac yn ysgafn, mae cromen fel hyn yn hynod o gadarn, a'i gyfaint yn fawr o'i gymharu ac arwynebedd y waliau trionglog (neu siap hecsagon).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cromen Geodesig cyntaf: Planetariwm yn Jena 1922 gan gynnwys gwybodaeth batent Archifwyd 19 Mawrth 2013 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Zeiss-Planetarium Jena: Geschichte". Planetarium-jena.de. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-31. Cyrchwyd 2015-08-30.
- ↑ For a more detailed historical account, see the chapter "Geodesics, Domes, and Spacetime" in Tony Rothman's book Science à la Mode, Princeton University Press, 1989.