Cronfa Glyndŵr
Mae Cronfa Glyndŵr, neu, yn ôl ei henw llawn swyddogol, Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg, yn gronfa ar gyfer hybu addysg Gymraeg drwy gefnogi sefydlu ysgolion a chefnogi disgyblion.
Dechrau/Sefydlu | 1963 |
---|
Hanes Sefydlu
golyguSefydlwyd y Gronfa ym 1963 gan Trefor a Gwyneth Morgan i hyrwyddo addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru.[1][2] Bu i Trefor sefydlu Ysgol Glyndŵr ger Pen-y-bont ar Ogwr ym 1968, fel ysgol breswyl Gymraeg, ond bu i'r ysgol gau yn fuan ei farwolaeth disymwth ym 1970.[3]
Cennad
golyguMae'r Gronfa yn rhoi grantiau i gylchoedd meithrin, ysgolion neu unrhyw gyrff sy’n ymwneud ag addysg Gymraeg. Blaenoriaethir grantiau sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg, ond mae grantiau hefyd yn cael eu rhoi ar gyfer prynu adnoddau i wella profiad addysgol y plant a’r disgyblion.
Mae'r Gronfa yn rhannu arian gyda cheisiadau gan fudiadau ac unigolion sydd angen cymorth i hyrwyddo, darparu neu hwyluso addysg Gymraeg. Ymysg y cyrff sydd wedi elwa mae:[4]
• Cylchoedd Meithrin - wedi cael grantiau i greu taflenni marchnata deniadol er mwyn cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o werth addysg Gymraeg. Mae’r ymgyrchoedd hyn wedi sicrhau cynnydd yn nifer y plant sy’n cael y cyfle i dderbyn addysg Gymraeg.
Rhoddwyd cymorth ariannol i nifer o Gylchoedd Meithrin i brynu offer neu adnoddau newydd. Mae hyn wedi eu helpu i wella eu delwedd a rhoi gwell gwasanaeth i’r plant. Mewn rhai achosion y cymorth hwn oedd wedi helpu’r Cylch i gael dau ben llinyn ynghyd a’u hachub rhag gorfod cau dros dro tra’n ‘mynd trwy gyfnod anodd’.
Gwybodaeth
golyguMae'r Gronfa yn gweithio'n agos gyda Mudiad Meithrin a Rhieni Dros Addysg Gymraeg ac mae'n aelod o Mudiadau Dathlu'r Gymraeg.
Ariennir y Gronfa drwy cyfraniadau unigolion a mudiadau. Llywydd anrhydeddus y Gronfa yw Cennard Davies.
Rhif elusen swyddogol y mudiad yw 525762.
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Amdanon ni". Gwefan Cronfa Glyndwr. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-17. Cyrchwyd 2022-02-17.
- ↑ James, Bryan (October 2014). "50 years on – and still the battle continues!". www.cronfaglyndwr.net. Ninnau, the North American Welsh Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-22. Cyrchwyd 14 February 2016.
- ↑ Williams, Iolo Wyn (2003). Our Children's Language: The Welsh-medium Schools of Wales 1939-2000. Caerdydd: Y Lolfa. t. 72. ISBN 9780862437046.