Dathlu'r Gymraeg
Grŵp ymbarél o fudiadau sy’n hybu’r Gymraeg yw Dathlu’r Gymraeg. Fe'i sefydlwyd yn 2007 i gydlynu ymdrechion i hybu'r iaith ac i roi llais i siaradwyr Cymraeg. Rhwng ei holl aelodau mae Dathlu'r Gymraeg yn cynrychioli degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg. Dathlu'r Gymraeg sy'n trefnu Diwrnod Shwmae ar 15 Hydref bob blwyddyn.
Fe'i seiliwyd yn fras ar fudiad llwyddiannus ar gyfer yr iaith Fasgeg, Euskalgintzaren Kontseilua.
Aelodaeth
golyguDyma'r mudiadau sy'n aelodau o fudiad Dathlu'r Gymraeg:
- Cymdeithas Addysg Ewrop y Rhanbarthau
- Cronfa Glyndŵr
- Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru
- CYDAG
- Cyfeillion y Ddaear
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Cymdeithas Alawon Gwerin
- Cymdeithas Bob Owen
- Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
- Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
- Cymdeithas y Cymod
- Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
- Eglwys Bresbyteraidd Cymru
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru
- Merched y Wawr
- Mentrau Iaith Cymru
- Mudiad Meithrin
- RhAG
- Undeb Amaethwyr Cymru
- UCAC
- UMCA
- UMCB
- Urdd Gobaith Cymru